Cwestiwn ac Ateb efo Wyn Bowen Harries

Sgwrs gydag Awdur/ Cyfarwyddwr DNA darganfod cyfrinach bywyd

“Darn uchelgeisiol o theatr sy’n cyflwyno gwyddoniaeth, a sut mae merched bob amser wedi chwarae’n ail ffidil i ddynion yn y byd gwyddonol. Mae’r ddrama fyd-eang hon yn chwa o awyr iach i’r theatr Gymraeg.”

Pam Rosalind Franklin, beth oedd yr ysgogiad i ddewis ei stori hi fel sail i ddrama?

Oherwydd, yn gyntaf, ers yr holl flynyddoedd ers i mi wneud fy ngradd mewn biocemeg yn Aberystwyth, dydw i erioed wedi defnyddio’r pwnc i unrhyw ddiben go iawn, ac rydw i wedi bod yn ysu i drio sgwennu rhywbeth gwyddonol. Wrth gwrs mae fy ngwaith efo Cwmni Pendraw wedi ffinio ar  bynciau gwyddonol, ac yn fwy felly, amgylcheddol, ac mae ysgrifennu’r ddrama hon wedi mynd a fi un cam ymhellach.

Yn ail, mae stori Rosalind Franklin yn un go enwog. Dechreuais ddarllen bywgraffiadau amdani a  sylweddoli bod stori wych yma, a stori falle, sydd ddim wedi ei ddweud o’i safbwynt hi yn iawn. Mae yna lyfrau wedi bod, ond does dim drama am y pwnc i mi wybod amdano.

Fy man cychwyn bob amser yw gofyn: lle mae’r stori? Sut ydw i’n mynd i greu stori allan o’r pynciau yma? Roedd hyn yn wir efo Creigiau Geirwon (ein cynhyrchiad diwethaf am hanes tywyswyr mynydd Eryri) roedd gen i lot o ddeunydd, ond sut oedd rhywun yn creu stori o’i cwmpas?

Dyma sut dwi wedi gweithio erioed, ond mae hwn mwy fel drama ’strêt’ os lici di ond drama dwi wedi bod yn ysu i’w sgwennu ers rhai blynyddoedd.

Faint o wyddoniaeth sydd yn y ddrama a sut mae’n cael ei chyfleu?

Y peth pwysicaf i bobol ei wybod amdano ydy mod i wedi creu’r ddrama fel rhyw fath o stori dditectif. Rydyn ni’n gweld rhai o’r cemegau’n cael eu hesbonio ar sgriniau sydd yn rhan o’r set. Mae  Rosalind ei hun yn esbonio beth ydy DNA a’r rhannau gwahanol i’w ffrind a’i mentor, Adrienne, sydd ddim yn fiocemegydd. Mae hi, fel y gynulleidfa’n derbyn yr esboniad mewn modd digon clir a syml. Mae’r stori dditectif  yn datgelu pa gamau a gymerwyd gan yr holl bobol oedd yn gwneud y gwaith.

Mi roedd yna ras yn mynd ymlaen, mi roedd Watson (aeth ymlaen ynghyd â Crick i ennill Gwobr Nobel am eu gwaith), yn sicr yn ymwybodol o’r ras am wobr Nobel, ond doedd Rosalind ddim yn gweld hyn fel ras. Roedd hi’n ei ystyried fel rhan bwysig o wyddoniaeth a’i ffocws hi oedd ar y broses: sut i’w wneud yn gywir, sut i ddefnyddio’r camau cywir er mwyn datrys y broblem yn y pen draw. Roedd yr ‘hogiau’ (Watson a Crick) yn fwy ‘gung-ho’ ac yn chwarae o gwmpas efo syniadau gwahanol. Yn y diwedd roedden nhw’n gywir, ond heb gyfraniad gwaith Rosalind, bydda nhw byth wedi cyrraedd eu casgliadau.

Wyn Bowen Harries

Yr elfen arall i’r ddrama ydy’r stori gariad sydd yma, sef ei chariad at ei gwaith. Dyma oedd ei natur. Mae hi’n ymddangos fel person eitha’ naïf ond yn benderfynol o wneud pob dim yn y ffordd gywir. Roedd hi’n llawn cariad tuag at ei gwaith, a thuag at wyddoniaeth. Dyma oedd ei bywyd.

Gwelwn hefyd elfennau o gariad pobol eraill tuag ati hi, ond mae hi fel petai hi’n hollol anymwybodol o hyn. Cariad ac ymroddiad i’r gwaith sydd yn bwysig iddi hi yn y pen draw- mae hyn yn rhan o’i chyfansoddiad.

Allwch chi son am bwysigrwydd DNA a sut mae wedi siapio ein bywydau ni?

Hwn yw un o’r darganfyddiadau mwyaf pwysig y ganrif ddiwethaf. Os da ni’n edrych ar DNA rŵan a’r modd y mae firysau’n cael eu taclo efo brechiadau, ac mae hyn wedi trawsnewid y byd. Un enghraifft ydy hyn, erbyn hyn mae pobol wedi mapio allan DNA cyflawn cymaint o fodau byw, ac mae gennym y gallu i drin genynnau er mwyn gobeithio creu byd gwell- yn arbennig efo anhwylderau a chanserau. Dwi’n meddwl bod trawsnewid anferth yn y maes meddygaeth a meddygaeth bersonol ar fin digwydd yn y blynyddoedd nesaf.

Fel mae un o’r cymeriadau’n ei ddweud, sut wyt ti’n gwybod nad yw cracio cod DNA am agor blwch Pandora arall, ond wrth gwrs, ròl y gwyddonydd, yn ôl ein cymeriadau, yw creu’r gwaith sy’n arwain at ddarganfyddiadau. Mater i’r gwleidyddion yw penderfynu beth ydy’r ethos a’r ffyrdd sydd rhaid ei ddefnyddio’n ddiogel ac er budd pawb yn y dyfodol.

Ac yn olaf, beth am ‘helynt’ yr Eisteddfod’?
Wel, ia, helynt yr Eisteddfod! Dyma gyfle i bobl weld un o’r dramâu na enillodd y Fedal ddrama yn Eisteddfod 2024 pan gafodd y gystadleuaeth ei thynnu’n ôl ar y funud olaf!
Roeddwn wedi ymgeisio am y Fedal Ddrama am fy mod yn awyddus i gael adborth y beirniaid ar fersiwn cynharach o DNA. Roedd peth dryswch, anghydfod ac yn wir, dirgelwch ynghylch yr holl beth ond o leiaf, cefais feirniadaeth ar fy nghais. Dyma ran o’r feirniadaeth:

“Darn uchelgeisiol o theatr sy’n cyflwyno gwyddoniaeth, a sut mae merched bob amser wedi chwarae’n ail ffidil i ddynion yn y byd gwyddonol. Mae’r ddrama fyd-eang hon yn chwa o awyr iach i’r theatr Gymraeg.”

Gadael sylw