CAST/CRIW ‘MR BULKELEY O’R BRYNDDU’
IONAWR/CHWEFROR 2015
CADEIRYDD CWMNI PENDRAW : Duncan Brown
Mae’n frodor o’r Waunfawr o dras teulu o ogledd Lloegr. Cafodd addysg a gyrfa yn y celfyddydau ac yng ngwyddorau bywydeg maes, ac mae’n frwd felly i bontio rhwng y “Ddau Ddiwylliant” yn arbennig ym maes yr amgylchedd. Mae’n grediniol mai Newid Hinsawdd yw prif bryder ein hoes.
Sylfaenodd prosiect Llên Natur ar ran Cymdeithas Edward Llwyd rai blynyddoedd yn ôl ac mae’n olygydd ar y prosiect. Mae’n frwd dros y syniad o ehangu’r byd Cymraeg a Chymreig i barthau y tu hwnt i’n “parth cysur” arferol yn enwedig ym maes yr amgylchedd. I’r perwyl hwn dros y deugain mlynedd diwethaf bu’n gyfrifol am lunio, gydag eraill, restrau o enwau a thermau byd natur i ganiatau i ni gyfathrebu yn y Gymraeg. Mae’n aelod o’r Orsedd, ac yn ddarlledwr a chyhoeddwr achlysurol ar bynciau ecolegol.
Ers ei ymddeoliad bu’n canolbwyntio ar ddatblygu “Tywyddiadur”, sef bas data tywydd ar-lein sydd, ymysg pethau eraill, yn dod â dyddiaduron amaethyddol Cymraeg a Chymreig y tair canrif diwethaf i olau dydd yn aml am y tro cyntaf trwy brosiect adysgrifio gwirfoddol. Cafodd y prosiect hwn sylw academyddion o’r byd hinsoddegol a chelfyddydol. Cwmni Pendraw yw un o’r camau nesaf yn yr antur hwn.
ACTORION:
Wyn Bowen Harries : Actor a chyfarwyddwr ers bron i 40 mlynedd bellach ac wedi ymddangos ar lwyfannau a sgriniau led led y wlad. Teledu’n cynnwys: Tipyn o Stad, Coronation Street, Y Gwyll/Hinterland; 35 Diwrnod ac newydd ymuno a chast Rownd a Rownd. Ffilmiau fel Gadael Lenin, Y Mapiwr ac Ironclad. Theatr : Season’s Greetings, Drowned Out, Porth Y Byddar, (Theatr Clwyd). Bu’n gyd-awdur ar Pris Y Farchnad (Cyfres 3) i S4C, Mr Bulkeley o’r Brynddu yw ei ddrama lwyfan llawn gyntaf. Cyfarwyddwr Cwmni Pendraw.
Rhodri Sion : Hyfforddiant – Coleg Cerdd a Drama, CaerdyddTheatr: Gwyn/white – Fran Wen, Dros y top – Bara Caws, Blodeuwedd – Theatr Genedlaethol, Cyfaill/te yn y grug – Bara Caws, Hwyliau’n codi – Bara Caws, Hawl/right – Fran Wen, Y Storm/The Tempest – Theatr Genedlaethol, Un nos ola leuad – Bara Caws, Tan mewn drain – Sherman Cymru, The caretaker/y gofalwr – Theatr Genedlaethol, Stags and hens – Fran Wen
Ffilm a Theledu: Llanargollen – Cwmni Da, Gwaith cartref – Fiction Factory, Hinterland – Fiction Factory, Patagonia – Malacara films, Zanzibar – Rondo, Cei bach – Sianco, Crash – BBC, Tipyn o Stad – Tonfedd Eryri, Emyn roc a rol – Tonfedd Eryri, Y lleill – Ankst films. Radio: Dyn pob un – Radio Cymru, Hirddydd Heddwch – Radio Cymru, Heno heno – Radio Cymru
Manon Wilkinson: Theatr :2014, Mr Bulkeley o’r Brynddu, Cwmni Pendraw, Dwr mawr Dyfn, Tryweryn, Theatr Genedlaethol Cymru/Sherman Cymru. Cyfaill / Te yn y Grug, Theatr Bara Caws.Woeful Wales at war, Shimli. Swyn y Coed (the Enchanted Forest), Cwmni’r Fran Wen. Sgint, Sherman Cymru / Theatr Genedlaethol. Un nos ola leuad, Theatr Bara Caws. Write to Rock, Clwyd Theatr Cymru, Drowned Out, Clwyd Theatr Cymru.
Teledu: Pobol y Cwm, BBC/S4C. Maggie, Rownd a Rownd, Rondo. Buddug, Cei bach, Sianco/S4C.
Lleisio. cartoon Dreigiau, lefel 2, s4c. Crwbanod Ninja (teenage mutant ninja turtles), lefel 2 i s4c. Bitesize poems, Galactig/BBC. Open University (radio commercial), gcap media.
CERDDORION
Stephen Rees : Cyfarwyddwr Cerdd.
Mae Stephen Rees yn gerddor sydd wedi’i drwytho yng ngherddoriaeth dradodiadol Cymru ers 40 mlynedd. Mae’n ddarlithydd cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Rhwng 1982 â 2010, fe deithiodd yn helaeth yn y DU, Ewrop ac America gyda’r grwpiau gwerin Ar Log a Crasdant. Rhwng 2006 a 2011, fe fu’n un o gyd-gyfarwyddwyr cerddorol Y Glerorfa (Cerddorfa Werin Cymru).
Yn ogystal ag ymddangos ar nifer o recordiadau gan artistiaid eraill, mae Stephen hefyd yn perfformio gyda’r gantores Sian James a’i band, ac ym mand y canwr-gyfansoddwr Steve Eaves. Yn ddiweddar, mae wedi atgyfodi ei bartneriaeth deuawd ffidil gyda Huw Roberts. Roedd yn un o sylfaenwyr Clera (1996) a trac (1997), ac mae ganddo brofiad helaeth o arwain gweithdai cerddoriaeth draddodiadol ar hyd a lled Cymru.
Huw Roberts
(Ffidil, telyn deires, offer taro)
Mae Huw yn enw cyfarwydd ym myd cerddoriaeth draddodiadol a dawns werin Cymru. Roedd yn aelod o’r grwpiau gwerin Cilmeri a Pedwar yn y Bar, ac ar hyn o bryd mae’n aelod o’r côr telynau teires Rhes Ganol a Triawd gyda’i fab Sion Gwilym a’i gyfaill Stephen Rees. Dros y blynyddoedd mae ei ffidil, ei bibgorn a’i delyn deires Gymreig wedi ei alluogi i deithio Cymru ben baladr, gwledydd eraill Ynysoedd Prydain ac Iwerddon, sawl gwlad ar gyfandir Ewrop a hefyd Canada ac Unol Daleithiau’r Amerig. Gyda’i wraig Bethan sefydlodd y partïon dawns werin Ffidl Ffadl a Dawnswyr Bro Cefni. Byd y ddawns werin fu’n gyfrifol am ennyn ei ddiddordeb yng ngwisgoedd traddodiadol Cymru. Mae Huw wedi cyhoeddi dwy gyfrol – un yn olrhain hanes Telynorion Llannerch-y-medd, Ynys Môn a’r llall yn archwilio gwisgoedd traddodiadol Môn yn y 19eg ganrif.
Gwenno Roberts
(Ffidil) Yn wreiddiol o Abergwyngregyn, mae Gwenno bellach yn byw yng Nghaerdydd, lle astudiodd gradd BMus mewn Cerddoriaeth. Ar ôl graddio, a threulio blwyddyn yn gweithio yn y brifddinas, dychwelodd i Fangor er mwyn cwblhau gradd MA gan arbenigo mewn Perfformio a Cherddoriaeth Werin Traddodiadol, gan dderbyn rhagoriaeth yn ei datganiad terfynol. Mae Gwenno’n mwynhau chwarae nifer o arddulliau cerddorol; mae’n perfformio gyda cherddorfeydd, grwpiau dawnsio gwerin, yn unigol ac mewn bandiau amrywiol. Mae hefyd yn gyd-gyfarwyddwwr cerddorol Y Glerorfa.
CYFARWYDDO gan Wyn Bowen Harries a Gwen Ellis:
Mae Gwen yn actor adnabyddus ar lwyfan, sgrin a radio am dros 30 o flynyddoedd.
Yn ddiweddar bu’n chwarae Agnes yn y bennod gyntaf o’r gyfres gyntaf o’r Gwyll/Hinterland. Mae wedi cyfarwyddo cynhyrchiadau llwyfan i Hwyl a Fflag ac i Bara Caws. Mae Gwen hefyd yn gwnselydd gyda Relate Cymru.
CYNLLUN A GWISGOEDD : Lois Prys
Theatr: Theatr Bara Caws: “Garw”, Cyd-gynllunydd Set a Gwisgoedd 2014, “Dros y Top” Gwisgoedd, “Llanast” Set a Gwisgoedd , “Cyfaill/Te yn y Grug” Gwisgoedd, “Hwyliau’n Codi” Cynllunydd Set a Gwisgoedd. “Sioe Glybia” Cynllunydd Gwisgoedd., “Ga I fod” Cynllunydd Gwisgoedd .Cwmni Fran Wen: “Shabwm”, Cynllunydd Set a Gwisgoedd
Teledu:“Sioe Nadolig Aled Jones”, Cynllunydd Meditel, “Wild Things”, Is Gynhyrchydd,Gwisgoedd a Steilio, Cwmni Da , “Byw yn yr Ardd” Cynllunydd Sioe fach y patch Cwmni Da, “Atom” Cynllunydd Set Cwmni Da, “Hip neu Sgip” Cynllunydd Set Fflic.“Tipyn o Stad” Cynllunydd Tonfedd Eryri, “Talcen Caled” is-gynllunydd Ffilmiau’r Nant
Siopau/Steilio/Graffeg: “Adra”,Cynllunydd Ffenest/Siop 2013-cyfredol, “9 Bach” Steilio clawr CD, “Caffi Ty Golchi” dylunio 6 canfas, “Pentref Mr Urdd” Cynllunydd Set Urdd Gobaith Cymru “Cyngerdd Haf” Cynllunydd Gwasaneth Ysgolion William Mathias, “Gwynedd Werdd” Dylunio cynyrch marchnata 2013 Dylunio Posteri Gwybodaeth Rheilffordd Llanberis. Addysg: 1994- 1997 2:1 BA 3DDesign- Cynllunio Theatr, Prifysgol Canolbarth Lloegr, Birmingham.1992 -1993 Diploma Cwrs Sylfaen Celf, National Collage of Art and Design, Dublin
Technegydd : Tomos Ayres.
Rheolwr Cyhoeddusrwydd: Elinor Elis-Williams. Mae Elinor wedi bod yn gweithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus ar ran cyrff mawr yng ngogledd Cymru ers dros ugain mlynedd. Mae hi wedi mwynhau’r cyfle i gydweithio gyda Chwmni Pendraw i hybu’r cynhyrchiad yma.
Gwefan a Chyfryngau Cymdeithasol : Sion Eirwyn Richards