DNA – Darganfod cyfrinach Bywyd: chwa o awyr iach i’r theatr Gymraeg.

Mae’n debyg mai cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Pendraw yw’r ddrama gyntaf gyda phwnc ‘gwyddonol’ yn y Gymraeg. Bydd DNA – Darganfod cyfrinach bywyd yn agor ddiwedd mis Mai cyn teithio trwy Gymru fis Mehefin.

Darganfyddiad strwythur DNA sydd dan y microsgop yma, darganfyddiad sydd wedi chwyldroi ein byd.

Gyda Wyn Bowen Harries yn gyfrifol am y sgript a’r cyfarwyddo, bydd y ddrama’n datgelu cyfraniad Rosalind Franklin, wrth iddi gyflawni cam allweddol yn y stori. ‘Benthycwyd’ ffrwyth ei gwaith trylwyr gan James Watson a Francis Crick, a lwyddodd i ddatrys y cod, gan wedyn ennill Gwobr Nobel.

Wrth gwrs, rydym yng nghyd-destun y 50au, ac felly hefyd y sialensiau a wynebwyd gan Rosalind, cymeriad anghonfensiynol a heriodd stereoteipiau’r cyfnod.

Mae’r cyfan yn nwylo cast profiadol: Siôn Emyr, Llŷr Evans, Morfudd Hughes a Manon Wilkinson.

Fel y pwysleisia Wyn Bowen Harries, stori dditectif yw hon. Rosalind Franklin yw ein ‘ditectif’ sy’n egluro’i gwaith a’i heriau wrth ei chyfaill a’i mentor, Adrienne Weill. Rydym yn dod i ddeall cyfraniad Rosalind gyda chymorth tafluniadau ar y set a fydd yn darlunio’r elfennau gwyddonol mewn modd syml a chlir. Cai Dyfan sy’n gyfrifol am y dylunio, gyda goleuo a thafluniadau gan Ceri James. 

Bydd trefniant gwreiddiol o ganeuon a cherddoriaeth y cyfnod yn cael ei chwarae’n fyw gan Patrick Rimes yn plethu drwy’r cyfan. Yn ogystal â bod yn gerddor traddodiadol ac yn aelod o Vrï, a chyn hyn, Calan, mae Patrick yn gyfansoddwr, yn drefnydd cerddoriaeth ac yn arweinydd talentog. 

Dywed Wyn:

“Rydym fel cwmni’n arbenigo mewn dod â themâu amgylcheddol a hanesyddol i’r llwyfan. Y tro hwn, roeddwn eisiau ymchwilio’n ddyfnach i faes mwy gwyddonol a dangos sut mae gwyddoniaeth yn newid ein bywydau, bod straeon gafaelgar yn gysylltiedig â rhai o’r darganfyddiadau pwysicaf, a bod merched wedi gwneud cyfraniadau o bwys sydd wedi cael eu tanbrisio yn y gorffennol!”

“Mae stori gref yn hanfodol, a theimlwn fod stori dditectif, ac yn wir, stori gariad yma. Roedd ymroddiad Rosalind a’i chariad at ei gwaith yn amlwg. Er hyn, ac yn ddiarwybod iddi, roedd Rosalind hithau’n destun cariad ac edmygedd ei ffrindiau a’i chyd-wyddonwyr, ond i’w gwaith ac i wyddoniaeth y rhoddodd hi ei hymroddiad a’i chariad yn gyfan gwbl.”

Cyflwynwyd y sgript i gystadleuaeth Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol 2024 – y flwyddyn y tynnwyd y gystadleuaeth yn ôl.

Dyma ran o’r feirniadaeth:

“Darn uchelgeisiol o theatr sy’n cyflwyno gwyddoniaeth, a sut mae merched bob amser wedi chwarae’n ail ffidil i ddynion yn y byd gwyddonol. Mae’r ddrama fyd-eang hon yn chwa o awyr iach i’r theatr Gymraeg.”

Taith

Iau 28/5/26 Stiwdio Pontio, Bangor
Gwener 29/5/26 Stiwdio Pontio, Bangor
Sadwrn 30/5/26 Stiwdio Pontio, Bangor
Mawrth 02/6/26 Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Mercher 03/6/26 Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Gwener 05/6/26 Y Stiwt, Rhosllannerchrugog
Llun 08/6/26 Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron
Mercher 10/6/26 Mwldan, Aberteifi | Cardigan
Gwener 12/6/26 Theatr y Werin, Aberystwyth
Mawrth 16/6/26 Galeri, Caernarfon
Iau 18/6/26 Tŷ Dawns, Caerdydd
Gwener 19/6/28 Tŷ Dawns, Caerdydd

Cwestiwn ac Ateb efo Wyn Bowen Harries

Sgwrs gydag Awdur/ Cyfarwyddwr DNA darganfod cyfrinach bywyd

“Darn uchelgeisiol o theatr sy’n cyflwyno gwyddoniaeth, a sut mae merched bob amser wedi chwarae’n ail ffidil i ddynion yn y byd gwyddonol. Mae’r ddrama fyd-eang hon yn chwa o awyr iach i’r theatr Gymraeg.”

Pam Rosalind Franklin, beth oedd yr ysgogiad i ddewis ei stori hi fel sail i ddrama?

Oherwydd, yn gyntaf, ers yr holl flynyddoedd ers i mi wneud fy ngradd mewn biocemeg yn Aberystwyth, dydw i erioed wedi defnyddio’r pwnc i unrhyw ddiben go iawn, ac rydw i wedi bod yn ysu i drio sgwennu rhywbeth gwyddonol. Wrth gwrs mae fy ngwaith efo Cwmni Pendraw wedi ffinio ar  bynciau gwyddonol, ac yn fwy felly, amgylcheddol, ac mae ysgrifennu’r ddrama hon wedi mynd a fi un cam ymhellach.

Yn ail, mae stori Rosalind Franklin yn un go enwog. Dechreuais ddarllen bywgraffiadau amdani a  sylweddoli bod stori wych yma, a stori falle, sydd ddim wedi ei ddweud o’i safbwynt hi yn iawn. Mae yna lyfrau wedi bod, ond does dim drama am y pwnc i mi wybod amdano.

Fy man cychwyn bob amser yw gofyn: lle mae’r stori? Sut ydw i’n mynd i greu stori allan o’r pynciau yma? Roedd hyn yn wir efo Creigiau Geirwon (ein cynhyrchiad diwethaf am hanes tywyswyr mynydd Eryri) roedd gen i lot o ddeunydd, ond sut oedd rhywun yn creu stori o’i cwmpas?

Dyma sut dwi wedi gweithio erioed, ond mae hwn mwy fel drama ’strêt’ os lici di ond drama dwi wedi bod yn ysu i’w sgwennu ers rhai blynyddoedd.

Faint o wyddoniaeth sydd yn y ddrama a sut mae’n cael ei chyfleu?

Y peth pwysicaf i bobol ei wybod amdano ydy mod i wedi creu’r ddrama fel rhyw fath o stori dditectif. Rydyn ni’n gweld rhai o’r cemegau’n cael eu hesbonio ar sgriniau sydd yn rhan o’r set. Mae  Rosalind ei hun yn esbonio beth ydy DNA a’r rhannau gwahanol i’w ffrind a’i mentor, Adrienne, sydd ddim yn fiocemegydd. Mae hi, fel y gynulleidfa’n derbyn yr esboniad mewn modd digon clir a syml. Mae’r stori dditectif  yn datgelu pa gamau a gymerwyd gan yr holl bobol oedd yn gwneud y gwaith.

Mi roedd yna ras yn mynd ymlaen, mi roedd Watson (aeth ymlaen ynghyd â Crick i ennill Gwobr Nobel am eu gwaith), yn sicr yn ymwybodol o’r ras am wobr Nobel, ond doedd Rosalind ddim yn gweld hyn fel ras. Roedd hi’n ei ystyried fel rhan bwysig o wyddoniaeth a’i ffocws hi oedd ar y broses: sut i’w wneud yn gywir, sut i ddefnyddio’r camau cywir er mwyn datrys y broblem yn y pen draw. Roedd yr ‘hogiau’ (Watson a Crick) yn fwy ‘gung-ho’ ac yn chwarae o gwmpas efo syniadau gwahanol. Yn y diwedd roedden nhw’n gywir, ond heb gyfraniad gwaith Rosalind, bydda nhw byth wedi cyrraedd eu casgliadau.

Wyn Bowen Harries

Yr elfen arall i’r ddrama ydy’r stori gariad sydd yma, sef ei chariad at ei gwaith. Dyma oedd ei natur. Mae hi’n ymddangos fel person eitha’ naïf ond yn benderfynol o wneud pob dim yn y ffordd gywir. Roedd hi’n llawn cariad tuag at ei gwaith, a thuag at wyddoniaeth. Dyma oedd ei bywyd.

Gwelwn hefyd elfennau o gariad pobol eraill tuag ati hi, ond mae hi fel petai hi’n hollol anymwybodol o hyn. Cariad ac ymroddiad i’r gwaith sydd yn bwysig iddi hi yn y pen draw- mae hyn yn rhan o’i chyfansoddiad.

Allwch chi son am bwysigrwydd DNA a sut mae wedi siapio ein bywydau ni?

Hwn yw un o’r darganfyddiadau mwyaf pwysig y ganrif ddiwethaf. Os da ni’n edrych ar DNA rŵan a’r modd y mae firysau’n cael eu taclo efo brechiadau, ac mae hyn wedi trawsnewid y byd. Un enghraifft ydy hyn, erbyn hyn mae pobol wedi mapio allan DNA cyflawn cymaint o fodau byw, ac mae gennym y gallu i drin genynnau er mwyn gobeithio creu byd gwell- yn arbennig efo anhwylderau a chanserau. Dwi’n meddwl bod trawsnewid anferth yn y maes meddygaeth a meddygaeth bersonol ar fin digwydd yn y blynyddoedd nesaf.

Fel mae un o’r cymeriadau’n ei ddweud, sut wyt ti’n gwybod nad yw cracio cod DNA am agor blwch Pandora arall, ond wrth gwrs, ròl y gwyddonydd, yn ôl ein cymeriadau, yw creu’r gwaith sy’n arwain at ddarganfyddiadau. Mater i’r gwleidyddion yw penderfynu beth ydy’r ethos a’r ffyrdd sydd rhaid ei ddefnyddio’n ddiogel ac er budd pawb yn y dyfodol.

Ac yn olaf, beth am ‘helynt’ yr Eisteddfod’?
Wel, ia, helynt yr Eisteddfod! Dyma gyfle i bobl weld un o’r dramâu na enillodd y Fedal ddrama yn Eisteddfod 2024 pan gafodd y gystadleuaeth ei thynnu’n ôl ar y funud olaf!
Roeddwn wedi ymgeisio am y Fedal Ddrama am fy mod yn awyddus i gael adborth y beirniaid ar fersiwn cynharach o DNA. Roedd peth dryswch, anghydfod ac yn wir, dirgelwch ynghylch yr holl beth ond o leiaf, cefais feirniadaeth ar fy nghais. Dyma ran o’r feirniadaeth:

“Darn uchelgeisiol o theatr sy’n cyflwyno gwyddoniaeth, a sut mae merched bob amser wedi chwarae’n ail ffidil i ddynion yn y byd gwyddonol. Mae’r ddrama fyd-eang hon yn chwa o awyr iach i’r theatr Gymraeg.”

DNA

DARGANFOD CYFRINACH BYWYD

Llundain yn ystod y 50au, mae Rosalind Franklin yn cyrraedd ‘coridorau cysegredig’ prifysgol. Yn ddawnus ac yn angerddol dros wyddoniaeth; dyma ferch gref mewn parth gwrywaidd.

Mae hi’n ymuno â’r ras i ddatgelu strwythur DNA, un o bosau pwysicaf y ganrif. Mae cenfigen academaidd ar waith yma ac, efallai, Gwobr Nobel yn y fantol.

Dyma stori dditectif wedi’i gosod yng nghanol hiliaeth a rhywiaeth y cyfnod. Clywch am gyfraniad Rosalind i un o ganfyddiadau gwyddonol pwysicaf ein hoes, rôl na dderbyniodd cydnabyddiaeth lawn amdano.

Gallwch ddisgwyl drama, gwrthdaro, cariad a cherddoriaeth fyw yn nwylo Cwmni Pendraw. 

DNA drama newydd gan Wyn Bowen Harries

“Chwa o awyr iach i’r ddrama Gymraeg”- beirniaid cystadleuaeth Fedal Ddrama Eisteddfod y Rhondda na fu.

Drama sy’n olrhain stori darganfod strwythyr DNA o safbwynt Rosalind Franklin a wnaeth cymaint o waith ond cafodd ei hanwybyddu gan sefydliad gwyddonol a phwyllgor y wobr Nobel. Cafwyd cyfnod byr o Ymchwil a Datblygu yn ddiweddar a diolchwn i Cyngor Celfyddydau Cymru am nawdd ac i Fran Wen a Pontio am gartref. Awn ymlaen i geisio taith o theatrau Cymru yn y dyfodol agos. Dyma flas o’r gwaith hyd yn hyn (Pontio Rhagfyr 2024).

Cast : Siôn Emyr, Llŷr Evans, Morfudd Hughes, Manon Wilkinson.

Criw creadigol: Cynllynydd – Cai Dyfan; Goleuo ac Animeiddio – Ceri James, Cerddoriaeth – Patrick Rimes, Rheolwr Cynhyrchiad a Llwyfan – Iestyn Garlick

Our new project is DNA, a new play of the discovery of the structure of DNA but this time from Rosalind Franklin’s perspective, not James Watson and Francis Crick. Here is a taste of our recent R & D.

Photos and video by SDG Productions.