Adolygiadau/Reviews

Y Theatr a Fi gan Carys Tudor

Darn o theatr gan Gwmni Pendraw oedd y gwaith cyntaf imi’i weld eleni, rhywbeth a oedd rywfaint yn wahanol i gychwyn y flwyddyn. Mae’r darn yn mynd i’r afael â newid hinsawdd, a’r effaith mae hynny’n ei gael ar y byd o’n cwmpas.

Cyfieithiad gan Wyn Bowen Harries o gyflwyniad a gafodd ei gyfansoddi’n wreiddiol gan y gwyddonydd Chris Rapley ar y cyd â Duncan Macmillan yw 2071. Rhywbeth a oedd yn ymdebygu â pherfformiad o ddarlith a gafwyd, a hynny’n canolbwyntio ar bynciau llosg a hynod o berthnasol ar hyn o bryd.

Dyma ddarn o waith sy’n gorfodi rhywun i feddwl am yr effaith mae’n ei gael ar y byd o’i gwmpas, a’r hyn fydd yn ein wynebu yn y dyfodol agos os na fyddwn yn gweithredu ynghylch newid hinsawdd. Darn o waith sy’n dilyn ton llwyddiannus rhaglenni megis Blue Planet II (sy’n cael ei chrybwyll yn y cyflwyniad) a Cowspiracy yw 2071. Wrth ddefnyddio ffeithiau gwyddonol mae’r cyflwyniad yn cyfleu effaith bodau dynol ar newid hinsawdd yn glir, a hynny ar ffurf greadigol.

Cafwyd sawl jôc sinigaidd a chlyfar yn y cyflwyniad gan Wyn Bowen Harries, a’r rheiny’n ysgafnhau’r perfformiad, cyn gwneud i rywun ystyried yr hyn sydd newydd gael ei ddatgan, a mor ‘bizarre’ yw’r sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd.

Yn gefndir i’r cyflwyniad gan Wyn Bowen Harries, roedd Gwilym Bowen Rhys ac Angharad Jenkins yn perfformio trac sain byw. Wrth ddefnyddio technegau amrywiol roedd modd i’r perfformwyr greu sain trawiadol, ffilmig ei naws. Roedd defnydd y ddau berfformiwr o wahanol offerynnau, yn ogystal â defnydd o’r ‘loop pedal’ yn creu tensiwn ac yn cyfeilio a chyd-dynnu gyda naws y cyflwyniad geiriol. Cafwyd sawl cân gofiadwy gan Gwilym Bowen Rhys, a chan fod y rhain yn y Gymraeg roeddynt yn cyfleu mor agos atom yw effeithiau newid hinsawdd. Cafwyd un gân ingol iawn a orfododd y gynulleidfa i feddwl am effaith ein dewisiadau ni ar y rheiny fydd yma ymhen can mlynedd – sut le fydd ar y byd o’n cwmpas erbyn hynny, tybed? Cefais f’atgoffa o gerddoriaeth Ernest Bloch mewn cân arall, un ddi-gyfeiliant y tro hwn. Roedd y tristwch a gafodd ei gyfleu ym mherfformiad Gwilym Bowen Rhys yn gwneud i mi feddwl am waith y cyfansoddwr Iddewig, yn arbennig ei waith From Jewish Life a gyfansoddodd Ernest Bloch ar gyfer y soddgrwth ddechrau’r ganrif ddiwethaf.

Er taw nid pregeth oedd y cyflwyniad hwn, mae’n bosib y gellid ei ddisgrifio fel rhyw fath o ddrama brotest, neu o leiaf un sy’n codi cwestiynau ynghylch y cyfeiriad y mae’r byd yn mynd iddo, a gwneud i rywun feddwl yn ddyfnach ynghylch y byd o’i gwmpas a’i ddewisiadau o ddydd i ddydd.

A’r hyn dwi wedi’i wneud ers mynychu’r cyflwyniad hwn? Dwi wedi mynd ati i wneud ymchwil pellach ar yr effaith dwi’n ei gael ar y byd o’m cwmpas. Dwi am ddechrau defnyddio ‘cotton buds’ pydradwy yn lle rhai sy’n cynnwys plastig, a dwi’n ceisio dod o hyd i frwsh danedd wedi’i wneud o fambŵ i’w brynu. Dwi am fwynhau dishgled o de rhydd yn amlach hefyd – wyddoch chi nad yw bagiau te yn pydru’n llwyr? Nid yw’r glud sy’n cadw’r bag te at ei gilydd yn eco-gyfeillgar!

 

Mae’r cyflwyniad yn parhau i fod ar daith tan 7 Chwefror 2018.

western mail article-page-0Adolygiad Barn Mawrth 2015 001

“Neges bur i ddweud faint rydym wedi mwynhau’r sioe yn yr Ucheldre wythnos diwethaf.

We really enjoyed it – completely engrossing, loved the music and the direction and – well, you get the picture. I am enthused!
I thought it was a really inventive way of interpreting something which can look so dry on paper. I guess that’s what good drama is all about.
I loved the multiple costume changes of the support cast – it was funny and clever. i thought the lighting and atmosphere in the very last scene, the death, was beautiful. The whole thing was excellent.
I’m sure the production is getting the acclaim it deserves as it travels around – we’ve heard it mentioned on radio cymru already.
Llongyfarchiadau

Best wishes

Jane Parry MacFarlan”

Mae adolygiad Rhys Mwyn o Mr Bulkeley o’r Brynddu  yn yr Herald Gymraeg 4.2.15 i’w ddarllen ar ei wefan yma.

 

Mae adolygiad Elinor Gwynn o’n perfformiad yn Neuadd Ogwen, Bethesda ar raglen Dewi Llwyd Radio Cymru 1 Chwefror  i’w glywed 1 awr 11 munud mewn i’r rhaglen yn fan hyn. Bydd ar gael am 29 diwrnod wedi’r darllediad gwreiddiol.

 

Dyma sylw ar raglen Heno S4C (18″ i mewn yma) ar ein noson agoriadol 27 Ionawr (bydd ar gael am 35 dirwnod).

 

Golwg 22 Ionawr
img013
img014
img011

 

 

Sylw i’r Cwmni a’r cynhyrchiad yn Y Cymro 9.1.15

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

islandsquire (1)

 

Barn adolygiad Hydref 2014 001

Adolygiad Barn Hydref 2014

 

Annwyl Cwmni Pendraw,

Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch yn fawr iawn i chi am y gwahoddiad gawsom fel ysgol gennych i fynychu eich gweithdy ar William Bulkeley o Lanfechell. Gan ein bod yn ysgol sy’n cael ein bwydo o’r dalgylch hon a nifer dda o’n disgyblion ni yn byw yn nalgylch Llanfechell, roedd yn ddiddorol cael clywed hanes am y gŵr unigryw yma nas gŵyr llawer amdano.

Mae’r disgyblion Drama yn parhau i sôn am y perfformiad welsant yn Llanfechell. Roedd cael cychwyn yng nghartre William Bulkeley ei hun yn hynod drawiadol ac effeithiol ac yna’r dull promenâd pan symuwyd y perfformiad i’r ardd. Roedd yr awyrgylch grëwyd a’r perfformiad gan y cast bychan talentog, wir yn effeithiol. Pan bromenadwyd wedyn dros y caeau i Eglwys Llanfechell, roedd fel ein bod i gyd gyda’n gilydd yn camu nôl mewn amser ac yn sydyn reit, roeddem yn teimlo ein bod yn rhan o’r perfformiad yn hytrach na’n rhan o’r gynulleidfa.

Roedd clywed wedyn am hynt a helynt y teulu a chymeriad lliwgar a chreulon Fortunatus Brown yn dod yn rhan o’u bywyd yn ddifyr dros ben. Pwy feddyliai fod y ffasiwn beth yn rhan o hynt a helynt bywyd rhywun mor barchus ac agos i’w le â William Bulkeley!

Crëwyd cymeriadau credadwy ble gallwyd uniaethu â nhw gan y cast amryddawn hwn ac roedd y gynulleidfa wedi eu bachu! Roedd y gerddoriaeth benodol i’r cyfnod hefyd yn ychwanegu i’r perfformiad yn ei gyfanwaith.

Cafwyd bore difyr iawn yn gwylio a chael ein hudo i fod yn rhan o hynt a helynt hanes William Bulkeley ac edrychwn ymlaen fel ysgol am gael gweld y perfformiad yn ei gyfanrwydd yn fuan yn y flwyddyn newydd. Pob lwc i chi gyd gyda’r ymarferion a diolch am gael bod yn rhan o’r siwrnai.

Yn gywir,

Heledd Lewis Jones,

(Pennaeth Drama Ysgol Syr Thomas Jones).

Ar y …. o Fedi aeth criw o flwyddyn 10, 11, 12 a 13 ar daith addysgol i Lanfellech i ymweld a Brynddu lle roeddem yn cael gweld drama am ei ddyddiaduron. Roedd Syr William Bulkeley yn enwog am gadw dyddiadur o’r tywydd ar hyd ei fywyd. Mae hyn yn ffynhonell unigryw o gofnodi’r tywydd hyd nes y bydd o farw. Roedd cael gweld y ddrama yn brofiad gwefreiddiol am ei fod wedi ei leoli mewn sawl lleoliad o amgylch Llanfellech megis gardd Brynddu ac Eglwys Llanfechell. Ar ol gweld y ddrama, cawsom gyflwyniad gan Brifysgol Aberystwyth gyda ochr Daearyddol am newid hinsawdd dros y degawdau diwethaf. Cawsom gyflwyniad ar ffurf Powerpoint o’r mathau o dywydd eithafol dros y blynyddoedd. Roedd y daith yn un ddiddorol dros ben a hoffwn ddiolch am y cyfle i gael mynd i ymweld a Brynddu a chael clywed am hanes Syr William Bulkely.

Elain – Ysgol Bodedern