Taith 2018/Tour of Wales
Addasiad newydd o ddrama Chris Rapley a Duncan Macmillan sy’n cynnwys materion amgylcheddol llosg yr oes. Caneuon/songs gan Gwilym Bowen Rhys ac Angharad Jenkins. Video a sain/sound by Sion Eirwyn Richards and Aled Hughes. It is now an expanded adaptation of Chris Rapley and Duncan Macmillan’s original script in order to include more general environmental issues.
Noddwyd 2071 gan Gyngor Celfyddydau Cymru 
Gwaith ar y gweill – Work in progress
CWMNI PENDRAW: 2071: arbrawf newydd i’r theatr Gymreig
A fyddwch chi yma yn y flwyddyn 2071? Sut bydd ein byd i’r rhai sy’n byw ynddo?
Mae’r actor Wyn Bowen Harries wrthi’n cynhyrchu sioe arbrofol newydd ar newid hinsawdd. Mae Cwmni Pendraw yn apelio i bobol ifanc a disgyblion ysgol yn arbennig i ddod i weld 2071 Gwaith ar y Gweill am ddim yng Nghaernarfon (Galeri Rhagfyr 8) a Bethesda (Rhagfyr 9), cyn trafod sut fyd y byddant yn ei etifeddu yn y dyfodol. Mae hefyd yn eu gwahodd i rannu eu hymateb i’r cynhyrchiad, sydd yn plethu llefaru a fformat dogfen gyda cherddoriaeth a delweddau.
Gwyddonydd blaenllaw sy’n trafod ei syniadau ar newid hinsawdd yn 2071 Gwaith ar y Gweill, ynghyd a’i farn am sut fyd y bydd ei wyres fach yn etifeddu yn 2071 pan fydd hithau’n cyrraedd yr un oed ag y mae o heddiw.
Yn dilyn poblogrwydd ffilmiau dogfen ffeithiol, sydd yn gynyddol boblogaidd mewn sinemâu ac ar gyfryngau ffrydio, mae’r sioe yn defnyddio ffeithiau fel sail i’r sioe ac yn addasu’r rhaglen ddogfen i ddiddanu cynulleidfa theatr. Mae’n gweddu i’r dim gyda bwriad Cwmni Pendraw i greu cynyrchiadau newydd er mwyn cyfuno hanes, gwyddoniaeth a cherddoriaeth drwy gyfrwng theatr.
Wyn Bowen Harries sy’n siarad geiriau’r Athro Chris Rapley yn y ddrama. Mae’r ddrama yn addasiad o sgript gan yr Athro Rapley a Duncan Macmillan a berfformiwyd yn y Royal Court Theatre, Llundain a’r Hamburg Schauspielhaus mewn cynhyrchiad gan Katie Mitchell.
Meddai Wyn Bowen Harries:
“Arbrawf yw hwn. Arbrawf i weld os oes modd defnyddio geiriau, cerddoriaeth a delweddau i archwilio pwnc cymhleth ac emosiynol. Rydw i wedi cyfieithu’r ddrama ac wedi ei diweddaru er mwyn cynnwys gwybodaeth wyddonol newydd.
Er mai dyddiaduron dros 250 o flynyddoedd oed oedd ffynhonnell ein sioe ddiwethaf, Mr Bulkeley o’r Brynddu, mae themâu clir yn gyffredin. Ceisio deall ei fyd drwy arsylwi ar y tywydd a chofnodi’r hyn yr oedd yn ei weld ar ei ystâd oedd William Bulkeley yn ei ddyddiaduron. Mae gwyddoniaeth wedi datblygu’n bell ers y cyfnod, ac mae gennym ddealltwriaeth llawer mwy manwl o’r hyn sy’n digwydd i’n hinsawdd erbyn hyn. Yr hyn sydd gennym yw’r persbectif personol, ymgais gan wyddonydd byd enwog sydd wedi cyfrannu at y wybodaeth yna i rannu’r hyn a wyddai a hefyd i ymdopi â’r wybodaeth sydd ganddo ar lefel bersonol iawn iddo ef a’i deulu.
Rwy’n gobeithio y bydd y gynulleidfa, yn enwedig y to ifanc, yn awyddus i drafod newid hinsawdd a’r hyn y mae’n ei olygu iddyn nhw’n bersonol ac ar lefel leol yn ogystal ag ar lefel byd-eang.”
Y panelwyr yn Galeri fydd yr amgylcheddwraig Elinor Gwynn (Cadeirio) a’r gwyddonydd hinsawdd Yr Athro Gareth Wyn Jones. Yn Neuadd Ogwen Bethesda bydd yr hanesydd Nia Watcyn Powell (Cadeirio) a’r gwyddonydd, Yr Athro Deri Tomos. Bydd y perfformwyr Wyn Bowen Harries ac Angharad Jenkins ar y ddau banel.
Y cerddor Angharad Jenkins (sy’n aelod o’r grwpiau Calan a DnA ymysg projectau eraill) sydd wedi cynhyrchu cerddoriaeth wreiddiol i gyd-fynd â’r geiriau a’r delweddau gan Siôn Eirwyn Richards.
Cam cyntaf yw’r perfformiadau 2071 Gwaith ar y Gweill yng Nghaernarfon (Galeri Rhagfyr 8) a Bethesda (Rhagfyr 9) er mwyn datblygu syniadau gyda’r gobaith o’i gyflwyno ar daith ac ar gyfer Eisteddfod 2017. Mae’r tocynnau yn £5, ond am ddim i fyfyrwyr a disgyblion ysgol.
DIWEDD
15.11.16
Manylion Pellach: Wyn Bowen Harries, 07786992355 Nodiadau ar gyfer Golygyddion:
- Tocynnau Caernarfon 8fed o Ragfyr o swyddfa docynnau Galeri; tocynnau Bethesda 9fed o Ragfyr o Neuadd Ogwen neu wrth y drws. Tocynnau yn £5, am ddim i ddisgyblion ysgol a myfyrwyr.
- Y panelwyr yn y Galeri fydd yr amgylcheddwraig Elinor Gwynn (cadeirio) a’r gwyddonydd hinsawdd Gareth Wyn Jones. Yn Neuadd Ogwen Bethesda bydd yr hanesydd Nia Watcyn Powell (cadeirio) a’r gwyddonydd Deri Tomos. Bydd y perfformwyr Wyn Bowen Harries ac Angharad Jenkins ar y ddau banel.
- Wyn Bowen Harries sydd ar lwyfan fel Yr Athro Chris Rapley ac y cyfarwyddo’r cyfan. Angharad Jenkins (sy’n aelod o grwpiau Calan a DnA ymysg projectau eraill,) sydd wedi cynhyrchu cerddoriaeth wreiddiol i gyd-fynd â’r geiriau a’r delweddau gan Siôn Eirwyn Richards.
- Nod Cwmni Pendraw yw creu cynyrchiadau newydd sydd yn cyfuno hanes, gwyddoniaeth a cherddoriaeth drwy gyfrwng theatr.
CWMNI PENDRAW: 2071: a new direction for Welsh language theatre
Will you be here in 2071? What will our world be like for those who are?
Actor Wyn Bowen Harries is producing a new experimental show about climate change. Cwmni Pendraw is appealing to young people and school pupils in particular, to come and discuss what kind of world they are to inherit in 2071, following the Welsh language show of the same name and are giving free tickets to students and school-aged children. They are also inviting people to share their reaction to the production, which combines factual documentary material and spoken word with music and images. The performances at Caernarfon (Galeri December 8 ) and Bethesda (Neuadd Ogwen December 9)
In 2071 Gwaith ar y Gweill, a renowned climate scientist discusses his views on climate change and what kind of a world his granddaughter will will inherit in 2071, as she reaches the same age as he is in the play.
Following the current popularity of factual documentaries in the cinema and download formats, the show has a factual subject matter, and adapts the documentary style to entertain a theatre audience. It fits well with Cwmni Pendraw’s aim to create new productions to combine history, science and music in the theatre.
The show is an adaptation of Professor Chris Rapley’s words, spoken in this production by Wyn Bowen Harries, from a script by Chris Rapley and Duncan Macmillan, first performed at the Royal Court Theatre, London and the Hamburg Schauspielhaus in late 2014, in a production directed by Katie Mitchell.
Wyn Bowen Harries said:
“This is an experiment. An experiment to see whether words, music and images can be used to investigate a complex and emotional topic. I have translated the play into Welsh and updated much new scientific information.
Though our last production, ‘Mr Bulkeley o’r Brynddu’,was based on diaries from over 250 years ago, there are clear themes in common with this show. That diarist was trying to understand the weather and to record what he saw in his environment. Science has developed a great deal since the 1700’s, and we have a far more detailed understanding of what is happening to our climate by now. But what we have is the personal perspective, an attempt by a world renowned scientist who has contributed to climate science to not only share what he knows, but to come to terms with what that means for him and his family.
After the Show, I hope the audience, especially the younger members, will want to discuss climate change and what it means for them at a personal and local level as well as a global level,” he added.
There are two distinguished panels for both shows. In Galeri Caernarfon the panel will be environmentalist Elinor Gwynn (chair) and Climate Scientist, Professor Gareth Wyn Jones. In Neuadd Ogwen Bethesda the Chair will be historian Nia Watkin Powell with scientist, Professor Deri Tomos. Performers Wyn Bowen Harries and Angharad Jenkins will be on both panels.
Musician, Angharad Jenkins (a member of Calan and DnA among other projects) is creating the music and Siôn Eirwyn Richards the video.
ENDS
15.11.16
Further information: Wyn Bowen Harries, 07786992355
- The performances at Caernarfon (Galeri December 8 ) and Bethesda (Neuadd Ogwen December 9) are the first stage of development for the project which it’s hoped will be performed again at the National Eisteddfod and on tour in 2017. Tickets from Galeri for Caernarfon 8 December; Neuadd Ogwen or on the door for Bethesda 9 December. Tickets £5 or free to students and school pupils.
- There are two distinguished panels for discussions to be held after each show. In Galeri Caernarfon the panel will be environmentalist Elinor Gwynn (chair) and Climate Scientist, Gareth Wyn Jones. In Neuadd Ogwen Bethesda, the chair will be historian Nia Watkin Powell with scientist Deri Tomos. Performers Wyn Bowen Harries and Angharad Jenkins will be on both panels.
- Wyn Bowen Harries directs and acts. Musician, Angharad Jenkins (a member of Calan and DnA among other projects) is creating the music and Siôn Eirwyn Richards the video.
- Cwmni Pendraw aims to create new theatre productions which combine history, science and music.