Amdanom ni

Croeso i wefan Cwmni Pendraw! Welcome to Cwmni Pendraw’s website!

‘Mr Bulkeley o’r Brynddu’ yw enw cynhyrchiad cyntaf Cwmni Pendraw sydd wedi ei sefydlu i greu profiadau theatrig sy’n cyfuno themau hanesyddol a gwyddonol.

Logo Bara Caws

Mae ‘Mr Bulkeley’ yn teithio gyda chydweithrediad Bara Caws rhwng Ionawr 27 a Chwefror 14, 2015.

Mwy o wybodaeth ar y dudalen nesaf. Yn y cyfamser dyma flas o’r digwyddiad ‘Diwrnoimage-1d William Bulkeley’ sef rhagwelediad o’r sioe lwyfan llawn a berfformiwyd yn Y Brynddu, Llanfechell Medi 19, 20.

Dyma’r ‘Fame’, llong Fortunatus Wright, y morleidr a briododd Mary Bulkeley, merch William.

                      Cwmni Pendraw

                      mewn cydweithrediad a Bara Caws yn cyflwyno:

                      MR BULKELEY O’R BRYNDDU

Noddir gan Ynys Mon SDF, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymdeithas Edward Llwyd, llen Natur, Prifysgol Bangor, Magnox, a C3W

Mr Bulkeley o’r Brynddu: Plethu drama, hanes a gwyddoniaeth

Opera sebon o fywyd oedd gan William Bulkeley, Ysgwier o Ynys Môn yn ystod y 18fed ganrif – mi briododd ei ferch â môr-leidr, bu farw ei fab o alcoholiaeth, cafodd ei fam ei lladd gan ysgol yn syrthio ar ei phen cyn cael ei sathru gan wartheg!

Mr Bulkeley Day

Daeth ei ddyddiaduron yn yn fyw mewn drama ddwyieithog newydd – Mr Bulkeley o’r Brynddu – yn ei hen gartre’ ar stad Brynddu yn Llanfechell, ger safle’r Wylfa – ble mae un o ddisgynyddion y sgweier, Yr Athro Robin Grove-White yn byw erbyn hyn.

Roedd William Bulkeley yn fyw rhwng 1691-1760 ac mae ei ddyddiaduron yn rhoi darlun o fywyd y cyfnod – gan gynnwys hanes ei deithiau i Iwerddon, ynghyd â ffeiriau, ymladd ceiliogod, a sgandalau’r llys ym Miwmares.

Mi gafodd Cymru Fyw sgwrs efo’r actor Wyn Bowen Harries am ail greu hanes y sgweier lliwgar:                 Mr Bulkeley Day

Wyn Bowen Harries, sydd wedi sgrifennu a chynhyrchu : Pam dewis gwneud drama fel hon?

“Yn ddiweddar mi nes i ddilyn cwrs MA mewn Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy ym Mhrifysgol Bangor – gradd mewn Biocemeg oedd gen i beth bynnag – felly mae gen i ddiddordeb amlwg mewn gwyddoniaeth a’r      amgylchedd, a phethau fel ‘na.”Y naturiaethwr Duncan Brown ddaeth ata’ i a gofyn oedd gen i ddiddordeb mewn creu eitem theatrig am y dyddiaduron – nes i edrych arnyn nhw a gweld bod andros o stori ddiddorol yno.  Datblygodd petha’ wedyn, gan arwain Duncan, finna’ a Stephen Rees at ein gilydd i sefydlu Cwmni Pendraw.

Mae’n brosiect anarferol – oes ‘na heriau wedi bod?

“Ma’ hi ‘di bod yn her trio dysgu sut i wneud y math yma o beth fy hun – do’n i ‘rioed ‘di cael y profiad o gael arian, rhedeg cwmni – mae o ‘di bod yn wers go fawr i mi – trefnu taith ac ati. Ond ‘dwi ‘di ffeindio fo’n andros o ddiddorol. Mae ‘na lot o waith gwirfoddol, wrth gwrs, sy’n cymryd lot o amser. Ond ‘does ‘na ddim cymaint o waith bellach i actorion yng Nghymru, felly o’n i’n teimlo ‘mod i isho gwneud rhywbeth.”

Sut brofiad gafodd y gynulleidfa?

“Cynhyrchiad awyr agored oedd cam cyntaf y prosiect – rhywbeth hollol wahanol, blas o be’ fydd yn y ddrama lawn. Dechreuwyd o flaen y tŷ ym mhentre’ Llanfechell – tŷ hynafol y Bryddu. Mae’r perchennog presennol wedi bod yn hynod groesawgar a diddordeb mawr ganddo yn William Bulkeley a’i hanes. Wedyn symudwyd i’r ardd lle roedd golygfa’r anteliwt. Wedyn dysgodd y cerddorion Stephen Rees a Huw Roberts gân “Da yw swllt” i bawb. Ar ôl hynny, roedd rhaid cerdded tra’n canu ar draws y cae tuag at Eglwys Llanfechell, i weld gweddill y ddrama.      Mr Bulkeley Day

A beth am y daith yn y flwyddyn newydd?

“Ia, hwnnw yw’r prif gyfnod ymarfer – mi fydd ‘na sioe lawn, hefo gwisgoedd, set, goleuadau ac yn y blaen. Rydan ni ar daith am dair wythnos o 27 Ionawr i 14 Chwefror.

Newid hinsawdd

Ond nid dim ond stori dda ‘mohoni. Cafwyd cyflwyniad gan Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru C3W ar wyddoniaeth y tywydd, a phwysigrwydd astudiaeth o ddyddiaduron fel rhai William Bulkeley, â oedd yn cofnodi’r tywydd yn ddyddiol am dros 30 o flynyddoedd. Mr Bulkeley Day

Mae’r gwaith yn rhoi darlun unigryw o hinsawdd y cyfnod. Felly mae gwyddonwyr wedi bod yn astudio’r dyddiaduron er mwyn dysgu am newid hinsawdd heddiw. Roedd y cyflwyniad dan ofan Dr Sarah Davies a Dr Cerys Jones gyda chefnogaeth Yr Athro James Scourse a Vince Jones yn tynnu lluniau a video.  http://vimeo.com/wholepicture/bulkeley
http://wholepicture.zenfolio.com/c3w

Plethu drama, hanes a gwyddoniaeth

Cwmni Pendraw sy’n gyfrifol am y cynhyrchiad – cwmni gafodd ei sefydlu’n arbennig i geisio cyfuno profiadau theatrig hefo hanes a gwyddoniaeth.

‘Hynod ddiddorol’

Einion Thomas, Archifydd Prifysgol Bangor, sy’n esbonio pam fod drama yn gyfrwng da i gyflwyno ffrwyth llafur y cynllun: “Mae’r digwyddiadau theatrig yn fodd gwych i ddathlu penllanw project diddorol sydd yn rhoi’r dyddiaduron ar ffurf sydd yn hawdd i unrhyw un bori drwyddyn nhw. “Maen nhw’n hynod ddiddorol, heb sôn am fod ymysg y dystiolaeth ddogfennol bwysicaf sydd ar gael i’r sawl a fyn astudio hanes bywyd ar Ynys Môn yn y 18fed Ganrif. “Dwi’n falch o’r cydweithredu sydd wedi bod rhwng yr Archifau, Llên Natur, Cymdeithas Edward Llwyd a chwmni SueProof, sydd wedi rhoi’r dyddiaduron ar ffurf y gall bawb ei darllen.”

Mae dyddiaduron William Bulkeley yn cael eu cadw yn Archif Prifysgol Bangor, a bellach wedi’u trawsgrifio ac ar gael i’w darllen a’u gweld arlein. bulkeleydiaries.bangor.ac.uk

Stephen Rees yn son am Y Gerddoriaeth

Wrth fynd ati i ddyfeisio ‘byd sain’ addas, ceisias adlewyrchu tair agwedd o gerddoriaeth y cyfnod: cerddoriaeth boblogaidd dinasoedd mawr Llundain a Dulyn; alawon ffidil a thelyn oedd yn gyfredol yn Sir Fôn yn ystod bywyd William Bulkeley; a thraddodiadau cynhenid yr ynys, sy’n cael eu cynrychioli gan alawon ac offerynnau brodorol.

Mae dyddiaduron William Bulkeley yn adlewyrchu’r gwahanol agweddau gwahanol ar gerddoriaeth. Mae’n cyflogi telynorion i chwarae yn y Brynddu o bryd i’w gilydd, gan ddisgrifio un ohonyn nhw, Owen Morris o Gaernarfon, fel ‘the worst I believe as ever handled a Harp’! Roedd caneuon a cherddoriaeth a chaneuon yn rhan o’i fywyd: mae’n cofnodi geiriau ambell gân sy’n hoff ganddo – megis y ‘Scotch Song’ – gan ysgrifennu bod gân yn haeddu cael ei chofnodi oherwydd ‘the beauty and humour of it.’ Ac mae ei gyfaill, Lewis Morris, yn cofnodi ambell gân boblogaidd o’r cyfnod ar ei ran: mae’r rhain mewn nodiant yn y dyddiadur, fel y ‘Song by Young Lady’, sy’n cael ei chanu gan Anna Wright tua diwedd y ddrama. Cyhoeddwyd y gân yn Llundain The Gentleman’s Magazine, fis Rhagfyr 1737 – ‘Set to music by Mr Stanley’, sef y cyfansoddwr Seisnig, John Stanley (1712-1786). Erbyn 28 Mehefin 1738, mae wedi’i chofnodi gan Morris ‘as I received it this day’. Roedd lleoliad Môn ar y ffordd rhwng Llundain a Dulyn yn golygu bod y gerddoriaeth ddinesig ddiweddaraf yn gallu cyrraedd Llanfechell o fewn ychydig fisoedd.

Daw rhai o’r caneuon o ‘Ballad Operas’ y cyfnod, gan gynnwys dwy gân o’r enwocaf ohonynt oll, The Beggar’s Opera gan John Gay (‘Our Polly’ ac ‘Over the Hills’). Byddai cerddorion yn defnyddio alawon traddodiadol a phoblogaidd y cyfnod gan osod geiriau newydd arnynt – weithiau rhai dychanol, weithiau rhai masweddus. Yn wir, yn ei hanfod, dyw’r dechneg hon ddim mor bell â hynny o’r traddodiad caneuon actol yng Nghymru heddiw.

Beth am gerddoriaeth frodorol Sir Fôn? Rydym yn gwybod enwau dros 40 o ffidilwyr yn Sir Fôn yn ystod y 18fed ganrif, ac mae’r ffidlau felly’n chwarae rhan sylfaenol yn y trefniannau. Ond mae’r pibgorn a’r delyn deires i’w clywed hefyd. Mae gan nifer o’r alawon traddodiadol gysylltiad uniongyrchol â Sir Fôn, naill ai trwy eu henwau (‘Malltraeth’), neu gan eu bod nhw wedi cael eu chwarae ar yr ynys. Daw sawl alaw o lawysgrif gan Morris Edwards, un o ffidlwyr Môn. Does dim llawer o wybodaeth lawer amdano, ond fe gafodd ei gyflogi i ganu’r ffidil am gyfnod i’r teulu Meyrick ym Mhlas Bodorgan ychydig wedi cyfnod William Bulkeley. Ac o ddechrau’r ddeunawfed ganrif mae gennym garol draddodiadol – ‘Carol Gwirod yn Drws’ – a gofnodwyd gan Richard Morris, un arall o Forrisiad Môn.

Roedd yn rhaid hefyd mentro yn ôl i’r 17eg ganrif, gan gynnwys salmau a ymddangosodd gyntaf yn Llyfr y Psalmau Edmwnd Prys (1621), yn ogystal ag alaw gan Albanwr, Andro Blackhall (1536-1609), ar gyfer y ‘Scotch Song’. Ond nid jest archeoleg gerddorol mo hyn: mae’r alawon yn rhai da, bachog a chofiadwy, ac rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n gadael heno tan chiwbanu neu ganu’r alawon – yn union fel roedd cynulleidfaoedd y ‘Ballad Operas’ y 18fed ganrif!

Sue Walton.

Fy enw i yw Susan Walton, ac rwy’n ddarllenydd proflenni sy’n masnachu o dan yr enw Sue Proof.  Fi wnaeth y gwaith caled o drawsysgrifio pob gair o ddyddiaduron William Bulkeley.  Felly, i’r rhai ohonoch sy’n mwynhau hel ffeithiau, teipiais tua 422,400 gair ar draws 1,050 o dudalennau.  Roedd pob tudalen yn bodoli eisoes fel ffotograff ar ffurf pdf, felly gweithiais oddi ar y rheiny yn hytrach na’r testunau gwreiddiol. Y rheswm mod i’n ddewis da ar gyfer y dasg yw, gan fy mod yn ddarllenydd proflenni, rwy’n hynod o ffyslyd am sicrhau fod pob teipysgrif yn fanwl gywir o’i gymharu â’r gwaith gwreiddiol.  Yn yr achos hwn roedd angen i’r trawsgrifiad fod mor agos i lawysgrifen wreiddiol Bulkeley – a’r marciau eraill a wnaeth ar y dudalen – ag sy’n bosib ar brosesydd geiriau.  Golyga hyn, er enghraifft, fod rhaid i mi anwybyddu fy ngreddf i gychwyn bob brawddeg gyda phriflythyren.  Mr Bulkeley Day

Cymerodd y trawsgrifiad a’r gwirio tua 700 awr i mi, a’r gwaith wedi ymestyn dros gyfnod a gychwynnodd yn hwyr yn 2011 a pharhau tan yn gynnar yn 2014.  Mae rhai priodasau nad ydyn nhw’n parhau cyhyd, ac mae’n rhaid i mi ddweud fod William Bulkeley wedi bod yn rhan o fywydau fy ffrindiau a minnau am gyfnod.  Roeddem yn trafod Bulkeley a’i hynt a’i hanes fel pe bai’n byw yn ein pentref.  Roeddem yn teimlo ein bod yn ei adnabod, a theimlais dristwch pan oedd yn dioddef salwch angheuol a minnau’n gwybod mor brin oedd ei amser ar y ddaear.

Roedd fy nhasg yn un ddiflas a hynod ddiddorol ar yr un pryd.  Mae sawl cofnod sy’n nodi, ar wahân i’w record hollbresennol o’r tywydd, nad oes unrhyw beth nodweddiadol wedi digwydd: ‘nothing remarkeable [sic] happened’.

Fel cyfanwaith, mae’r dyddiadur yn arbennig o ddiddorol gan ei fod yn rhoi darlun o fywyd cyn y Chwyldro Diwydiannol, ac felly oedd pethau, fwy neu lai, am ganrifoedd o’r blaen.  Gwynt, dŵr neu eli penelin oedd yr unig ffynonellau pŵer ar gael i gyflawni tasgau mecanyddol a thrafnidiaeth.  Roedd cymdeithas yn cael ei rheoli gan y Brenin, gan yr aristocratiaeth – a oeddent hefyd yn poblogi’r llywodraeth a’r farnwriaeth – a gan yr eglwys sefydledig.  Roedd meddyginiaeth yn beth cyntefig: er enghraifft, yn ei fisoedd olaf, cynghorwyd Bulkeley i farchogaeth yn galed i wella’i ‘afiechyd’ (tybiaf mai cancr y coluddyn oedd arno, yn ôl ei symptomau).advertcwmnipendraw121114

Un agwedd o’r gwaith a gynhaliodd fy niddordeb ymysg yr holl nodiadau piwis am brisiau cig ym marchnad Llanerchymedd, neu restrau hirfaith o ba rai o’r crachach oedd yn mynychu Sesiynau’r Llys, oedd y pethau diamcan a nododd Bulkeley.  Pethau a nododd ar hap, a phethau hefyd sydd – oni bai eich bod yn hanesydd proffesiynol – wedi llithro o’n dealltwriaeth gyffredinol.  Pethau fel rhaffau wedi eu gwneud o foresg; llwynog dof Bulkeley (sy’n dianc ac wedyn yn dychwelyd, ac a fu farw pan gafodd ei larpio gan gi dieithr); dynes yn mynd o gwmpas y sir yn dynwared Mary, merch Bulkeley (pam?); a dyddiau ymprydio a gweddïo cenedlaethol a’u gorchymynnwyd gan y Brenin er mwyn i Dduw roi cymorth i’r wlad yn ei rhyfel yn erbyn Ffrainc.

Felly: comisiwn diddorol, diflas ar brydiau, a gymerodd amser hir ond a oedd yn brofiad arbennig iawn i mi.  Diolch i Gymdeithas Edward Llwyd am y gwaith; ac i Gyngor Sir Ynys Môn a Phrifysgol Bangor am roi grantiau i Gymdeithas Edward Llwyd i alluogi’r prosiect i ddigwydd.

Slogan Sue Proof yw ‘trawsnewid geiriau crai yn eiriau cywir’.  Mae hi’n cynnig prawf ddarllen, golygu, ac ysgrifennu; a chyfieithu Cymraeg–Saesneg.  Edrychwch ar www.sueproof.co.uk am ragor o wybodaeth.

Duncan Brown (Cadeirydd Cwmni Pendraw)

Yn nhyb ei deulu roedd Williimage-1am Bulkeley yn sgriblo cofnodion y tywydd yn ei ddyddiadur hyd syrffed. Ond i ni heddiw ei ddyddiaduron yw un o brif ffynonnellau tywydd a bywyd fferm yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Yn ddiweddar buom yn dathlu cyhoeddi ar y we y trawsysgrifiad cyntaf erioed ohonynt.

Beth yw trawsysgrifio felly? Teipio pob gair o’r llawysgrif gwreiddiol. Paham? Yn rhannol i’n helpu ni heddiw ei ddarllen, ond yn bwysicach efallai, i ganiatau gair-chwilio manwl. Beth er enghraifft mae WB yn ei ddweud am dywydd stormus – chwiliwn am y gair stormy efallai a dyma un o’r 260 o gofnodion sy’n codi: “April 24th. 1737 The Wind W.S.W. cold, stormy & boisterous, and raining cold showers most part of the day”. Yn ôl ffashiwn ei oes, yn Saesneg oedd William yn ysgrifennu, ond roedd y ddrama yn dangos mai Cymro Cymraeg ydoedd ac yn siarad yr heniaith efo’i deulu a’i weision. Siaradai’r iaith fain mae’n debyg gyda’i gyd-berchnogion tir, mân sgweiariaid Môn, ynadon heddwch – a gyda’i ddyddiadur.

Mae trawsgrifiad proffesiynnol Sue Walton ar lein ddwywaith. Mae’r cynnwys amgylcheddol i’w gael ar Llên Natur (Cymdeithas Edward Llwyd) yn y Tywyddiadur, a’r cynnwys i gyd, arferion cymdeithasol a chyfreithiol yn ogystal, ar wefan Prifysgol Bangor (Adran Archifau a Hen Ddogfennau)

Mae’r Tywyddiadur bellach yn cynnwys 90,000 o gofnodion dyddiedig a lleoliedig, o ddyddiaduron a phapurau newydd o bob math, y rhan fwyaf yn Gymreig neu’n Gymraeg. Pwrpas y prosiect yw creu adnodd amgylcheddol i Gymru, a modd o greu straeon neu naratifau hanes newydd am Gymru yn seiliedig ar y tywydd a’r tymhorau a phwysigrwydd dyddiaduron i olrhain patrymau tywydd tymor hir.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s