DNA Darganfod cyfrinach bywyd
Stori gariad gan Wyn Bowen Harries
Llundain yn ystod y 50au, mae Rosalind Franklin yn cyrraedd ‘coridorau cysegredig’ prifysgol. Yn ddawnus ac yn angerddol dros wyddoniaeth; dyma ferch gref mewn parth gwrywaidd.
Mae hi’n ymuno â’r ras i ddatgelu strwythur DNA, un o bosau pwysicaf y ganrif. Mae cenfigen academaidd ar waith yma ac, efallai, Gwobr Nobel yn y fantol.
Dyma stori dditectif wedi’i gosod yng nghanol hiliaeth a rhywiaeth y cyfnod. Clywch am gyfraniad Rosalind i un o ganfyddiadau gwyddonol pwysicaf ein hoes, rôl na dderbyniodd cydnabyddiaeth lawn amdano.
Gallwch ddisgwyl drama, gwrthdaro, cariad a cherddoriaeth fyw yn nwylo Cwmni Pendraw.
Cast
Rosalind Franklin: Manon Wilkinson
Mae credydau sgrin Manon yn cynnwys y dramâu trosedd Craith/Hidden ac Y Gwyll/Hinterland ar gyfer S4C/ BBC, y ddrama llys Dim ond y Gwir, y ddrama sebon, Stad fel y cymeriad ‘Tracy Fish a Chips’, Rownd a Rownd, a’r comedi i blant Cei Bach ar gyfer S4C.
Mae ei chredydau theatr yn cynnwys cynyrchiadau gyda Theatr y Sherman, Theatr Clwyd, Theatr Genedlaethol Cymru, Volcano Theatre Company, Frân Wen, Cwmni Pendraw a Theatr Bara Caws.
Mae hi’n gyfrannwr rheolaidd i ddramâu radio ar BBC Radio Cymru.
Adrienne Weill: Morfudd Hughes
Enwebwyd Morfudd am wobr BAFTA am ei pherfformiad yn y ffilm Branwen, bu’n chwarae rhan Gwenda yn y gyfres Pengelli, Ruth Driscoll yn y gyfres Craith/Hidden, S4C BBC, ymddangosodd hefyd yn y gyfres Y Gwyll/Hinterland, S4C/ BBC ac yn y ffilm Y Lleill.
Bu hefyd yn chwarae rhan y cymeriad Eleri yn y gyfres Rownd a Rownd ac mae’n ymddangos yn achlysurol fel Val yn Pobol y Cwm.
Mae ei gwaith theatr yn cynnwys Cyfaill/ Te yn y Grug – Bara Caws, Chwalfa – Theatr Genedlaethol, Sgint – Theatr Genedlaethol ac Fel Anifail gan Meic Povey i Theatr y Sherman. Bu hefyd yn cymryd rhan mewn gweithdai’r ddrama NOT gan Lisa Parry, ar gyfer yr RSC. Ei rhan ddiweddaraf oedd Siani yn nrama Jerry Hunter, sef Ledi’r Wyrcws.
Llŷr Evans: Maurice Wilkins & Francis Crick
DNA yw ail gynhyrchiad Llŷr i Gwmni Pendraw yn dilyn llwyddiant Creigiau Geirwon.
Yn ddiweddar fe welwyd Llŷr mewn cynyrchiadau teledu fel Stad, mae hefyd yn arwr i nifer o blant Cymru oherwydd Hari Help Llaw. ‘Dolig diwethaf fe greodd raglen Nadoligaidd arbennig o’r enw Allan o Sync. Yn ddiweddar, mae wedi troi ei law at ysgrifennu ac wedi creu gwaith ar gyfer nifer o gwmnïau, fel Bara Caws, Theatr Clwyd a’r Theatr Genedlaethol.
Siôn Emyr: Ray Gosling a James Watson
Bu Siôn yn rhan o gynhyrchiad diweddar Cwmni Theatr Frân Wen Praidd a berfformiwyd ar fferm ym Mhen Llŷn.
Yn ystod 2025 mi fuodd o’n rhan o ddau gynhyrchiad gwahanol gan Bara Caws, Tair Drama a hefyd Llanast – dau gynhyrchiad aeth ar daith ledled Cymru.
Yn ogystal â gwaith theatr, mae llais Siôn i’w glywed ar nifer o gartwnau gwahanol megis Criw’r Cwt, Y Smyrffs a He-Man ac yn ddiweddar buodd yn portreadu Dr Dan Morris mewn cyfres o benodau yn Pobl y Cwm. Mae’n edrych ymlaen yn arw at gael portreadu Ray Gosling a James Watson yn DNA, ac yn gobeithio bydd cynulleidfaoedd Cymru yn mwynhau clywed am hanes Rosalind Franklin.
Cerddoriaeth: Patrick Rimes
Mae Patrick Rimes yn gerddor, cyfansoddwr ac addysgwr cerddoriaeth o Ogledd Cymru.
Fe ddysgodd y ffidil yn yr arddull draddodiadol yn sesiynau gwerin byrlymus Eryri yn ogystal â gyda Gwasanaeth Ysgolion William Mathias, cyn mynd ymlaen i astudio’r ffidil a fiola glasurol ym Mhrifysgol Leeds, Janáčkovo Akademie Muzických yn y Weriniaeth Siec a Choleg Cerdd a Drama Caerdydd.
Mae wedi teithio’n helaeth ledled Prydain, Ewrop a Gogledd America gyda grwpiau fel Calan a VRï, yn ogystal â rhyddhau sawl record stiwdio. Bu’n perfformio fel unawdydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, City of London Sinfonia a Sinfonia Cymru.
Mae’n brysur fel cyfansoddwr/trefnwr, ac fe chwaraewyd ei weithiau yn ddiweddar gan artistiaid fel Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, West Virginia Symphony, Braimah Kanneh-Mason a Sting.
Er ei fod yn pontio nifer o arddulliau, mae cerddoriaeth draddodiadol yn rhan annatod o’i waith i gyd, ac mae wrth ei fodd yn rhannu cerddoriaeth Gymreig gyda myfyrwyr, mewn digwyddiadau fel Ffidil Fawr ac yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd.





Tîm Creadigol a Chynhyrchu
Cyfarwyddwr: Wyn Bowen Harries
Yn actor a chyfarwyddwr hynod o brofiadol, mae Wyn yn wyneb cyfarwydd i bawb, gan iddo ymddangos mewn nifer fawr o gyfresi teledu, ffilmiau, gan gynnwys, yn fwyaf diweddar, I’r Golau – Dwr a STAD 2 yn ogystal âchynyrchiadau llwyfan ledled y wlad dros y blynyddoedd.
Bu’n cyfarwyddo Cwmni Ieuenctid Cymru, yn Gyd-sylfaenydd Cwmni Hwyl a Fflag ac mae’n gyd-sylfaenydd Cwmni Pendraw, ac yn cyfarwyddo ac ysgrifennu i’r cwmni. Bu’n gydawdur ar Pris Y Farchnad (Cyfres 3) i S4C, Mr Bulkeley o’r Brynddu oedd ei ddrama lwyfan llawn gyntaf.
Cynllunydd Goleuo a Fideo & Rheolwr Cynhyrchu: Ceri James
Hyfforddwyd Ceri James yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac ym Mhrifysgol De California. Ambition.
Mae wedi gweithio gyda Frân Wen ar naw cynhyrchiad dros yr wyth mlynedd diwethaf, gan gynnwys Praidd, Deian & Loli, Imrie a Llyfr Glas Nebo. Mae ei waith dylunio goleuo a fideo yn cynnwys cynyrchiadau i Theatr Cymru, Theatr y Sherman, Opera Cenedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, gyda chredydau’n cynnwys Romeo a Juliet (Taith Genedlaethol a Shakespeare’s Globe Theatre) a Panig! Attack!
Mae hefyd yn gweithio fel dylunydd fideo, gan gydweithio â chwmnïau gan gynnwys Theatr na nÓg a Grand Ambition.
Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Cai Dyfan
Mae Gwaith Cai Dyfan yn cynnwys y canlynol:
Fel cynllunydd theatr: Twelfth Night (Theatr Clwyd) Violence and Son, Instructions For Correct Assembly, Imposter 22, On Bear Ridge (Royal Court); The Village Social, Joseph K and the Cost of Living, The Passion (National Theatre Wales) Paul Bunyan (WNO); Deian a Loli, Croendena, Imrie (Frân Wen); Trwy’r Ddinas Hon (Theatr y Sherman); Dosbarth Miss Pydderch, Rhinoseros, Sgint, Rhwng Dau Fyd, Chwalfa (Theatr Cymru); After the End (Dirty Protest); Your Last Breath (Curious Detective); Wasted (Paines Plough/Birmingham Rep).
Fel cyfarwyddwr celf a phrynwr, teledu a ffilm:Deadpoint, Effi o Blaenau, Madfabulous, Willow, His Dark Materials, Apostle, Dal Y Mellt, Hinterland/Y Gwyll, Y Swn, Wolf, Keeping Faith, A Discovery of Witches, Hidden/Craith, Born to Kill, Sherlock, Call the Midwife. Fel cynllunydd cynhyrchiad, teledu a ffilm:Stad 2, The Golden West.
Rheolwr Llwyfan: Martha Davies
Enillodd Martha BA (Anrh) Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru (Atriwm), Caerdydd ac mae hi wedi gweithio fel Rheolwr Llwyfan ers saith mlynedd ac wedi cael profiadau lu gydag amryw o theatrau a phobl wahanol fel Bara Caws (Lleu Llaw Gyffes, Byd Dan Eira, Un Nos Ola’ Leuad), Criw Brwd (Yn Ei Blodau), Theatr Genedlaethol / Theatr Cymru (Ar y Dibyn, Rhinoseros), Cwmni Pendraw (Creigiau Geirwon), Theatr Clwyd (Extracts a Truth or Dare), Frân Wen (Ynys Alys, Croendena, Lliwia), Cwmni Theatr yr Urdd (Ble mae trenau yn mynd gyda’r nos a chwestiynau mawr eraill bywyd), Theatr Ieuenctid Cymru (Dal Gafael / Hold on), Galeri, Jeremy Hunter a Judith Humphreys (Ledi’r Wyrcws).
Bydd rhai perfformiadau’n cynnwys dehongliad Iaith Arwyddion Prydain gan Cathryn McShane-Kouyaté.
Mae Cathryn McShane-Kouyaté yn fwyaf adnabyddus fel dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain-Cymraeg-Saesneg sydd wedi gweithio’n helaeth yn y celfyddydau, ar y sgrin, ac yn y theatr. Mae Cathryn wedi bod yn ddehonglydd llawrydd ers 2006 ac yn gweithio mewn amrywiaeth o feysydd. Ganwyd a magwyd Cathryn yn Sir Benfro ond mae wedi byw yng Nghaerdydd ers dros 30 mlynedd.
Tîm wrth gefn:
Adeiladwr y Set: Sam Wordsworth (Torch Theatre)
Artist Golygfeydd a Phropiau: Laurie Peric (Brushworks)
Cynhyrchydd: Glesni Price-Jones
Dylunio posteri: Rob Spaull
Ffotograffiaeth a Fideos SDG Productions Ltd
Rheolwr Marchnata: Eli Elis-Williams
Rheolwr Technegol y daith: Andrew Sturley
Technegwyr y daith: Lloyd Grayson & John Tee Mae ein diolch a’n dyled i’r dilynol am eu cymorth: Beverley Choriton a Theatr Clwyd am wig i Manon, Pontio a Bara Caws am fenthyg gofod ymarfer, Cathryn Young (Coreograffydd symudiad)
Cwestiwn ac Ateb efo’r awdur a chyfarwyddwr, Wyn Bowen Harries
Pam Rosalind Franklin, beth oedd yr ysgogiad i ddewis ei stori hi fel sail i ddrama?
Oherwydd, yn gyntaf, ers yr holl flynyddoedd ers i mi wneud fy ngradd mewn biocemeg yn Aberystwyth, dydw i erioed wedi defnyddio’r pwnc i unrhyw ddiben go iawn, ac rydw i wedi bod yn ysu i drio sgwennu rhywbeth gwyddonol. Wrth gwrs mae fy ngwaith efo Cwmni Pendraw wedi ffinio ar bynciau gwyddonol, ac yn fwy felly, amgylcheddol, ac mae ysgrifennu’r ddrama hon wedi mynd a fi un cam ymhellach.
Yn ail, mae stori Rosalind Franklin yn un go enwog. Dechreuais ddarllen bywgraffiadau amdani a sylweddoli bod stori wych yma, a stori falle, sydd ddim wedi ei ddweud o’i safbwynt hi yn iawn. Mae yna lyfrau wedi bod, ond does dim drama am y pwnc i mi wybod amdano.
Fy man cychwyn bob amser yw gofyn: lle mae’r stori? Sut ydw i’n mynd i greu stori allan o’r pynciau yma? Roedd hyn yn wir efo Creigiau Geirwon (ein cynhyrchiad diwethaf am hanes tywyswyr mynydd Eryri) roedd gen i lot o ddeunydd, ond sut oedd rhywun yn creu stori o’i chwmpas?
Dyma sut dwi wedi gweithio erioed, ond mae hwn mwy fel drama ’strêt’ os lici di ond drama dwi wedi bod yn ysu i’w sgwennu ers rhai blynyddoedd.

Faint o wyddoniaeth sydd yn y ddrama a sut mae’n cael ei chyfleu?
Y peth pwysicaf i bobol ei wybod amdano ydy mod i wedi creu’r ddrama fel rhyw fath o stori dditectif. Rydyn ni’n gweld rhai o’r cemegau’n cael eu hesbonio ar sgriniau sydd yn rhan o’r set. Mae Rosalind ei hun yn esbonio beth ydy DNA a’r rhannau gwahanol i’w ffrind a’i mentor, Adrienne, sydd ddim yn fiocemegydd. Mae hi, fel y gynulleidfa’n derbyn yr esboniad mewn modd digon clir a syml. Mae’r stori dditectif yn datgelu pa gamau a gymerwyd gan yr holl bobol oedd yn gwneud y gwaith.
Mi roedd yna ras yn mynd ymlaen, mi roedd Watson (aeth ymlaen ynghyd â Crick i ennill Gwobr Nobel am eu gwaith), yn sicr yn ymwybodol o’r ras am wobr Nobel, ond doedd Rosalind ddim yn gweld hyn fel ras. Roedd hi’n ei ystyried fel rhan bwysig o wyddoniaeth a’i ffocws hi oedd ar y broses: sut i’w wneud yn gywir, sut i ddefnyddio’r camau cywir er mwyn datrys y broblem yn y pen draw. Roedd yr ‘hogiau’ (Watson a Crick) yn fwy ‘gung-ho’ ac yn chwarae o gwmpas efo syniadau gwahanol. Yn y diwedd roedden nhw’n gywir, ond heb gyfraniad gwaith Rosalind, bydda nhw byth wedi cyrraedd eu casgliadau.
Yr elfen arall i’r ddrama ydy’r stori gariad sydd yma, sef ei chariad at ei gwaith. Dyma oedd ei natur. Mae hi’n ymddangos fel person eitha’ naïf ond yn benderfynol o wneud pob dim yn y ffordd gywir. Roedd hi’n llawn cariad tuag at ei gwaith, a thuag at wyddoniaeth. Dyma oedd ei bywyd.

Gwelwn hefyd elfennau o gariad pobol eraill tuag ati hi, ond mae hi fel petai hi’n hollol anymwybodol o hyn. Cariad ac ymroddiad i’r gwaith sydd yn bwysig iddi hi yn y pen draw- mae hyn yn rhan o’i chyfansoddiad.
Allwch chi son am bwysigrwydd DNA a sut mae wedi siapio ein bywydau ni?
Hwn yw un o’r darganfyddiadau mwyaf pwysig y ganrif ddiwethaf. Os da ni’n edrych ar DNA rŵan a’r modd y mae firysau’n cael eu taclo efo brechiadau, ac mae hyn wedi trawsnewid y byd. Un enghraifft ydy hyn, erbyn hyn mae pobol wedi mapio allan DNA cyflawn cymaint o fodau byw, ac mae gennym y gallu i drin genynnau er mwyn gobeithio creu byd gwell- yn arbennig efo anhwylderau a chanserau. Dwi’n meddwl bod trawsnewid anferth yn y maes meddygaeth a meddygaeth bersonol ar fin digwydd yn y blynyddoedd nesaf.
Fel mae un o’r cymeriadau’n ei ddweud, sut wyt ti’n gwybod nad yw cracio cod DNA am agor blwch Pandora arall, ond wrth gwrs, ròl y gwyddonydd, yn ôl ein cymeriadau, yw creu’r gwaith sy’n arwain at ddarganfyddiadau. Mater i’r gwleidyddion yw penderfynu beth ydy’r ethos a’r ffyrdd sydd rhaid ei ddefnyddio’n ddiogel ac er budd pawb yn y dyfodol.Ac yn olaf, beth am ‘helynt’ yr Eisteddfod’?
Wel, ia, helynt yr Eisteddfod! Dyma gyfle i bobl weld un o’r dramâu na enillodd y Fedal ddrama yn Eisteddfod 2024 pan gafodd y gystadleuaeth ei thynnu’n ôl ar y funud olaf!
Roeddwn wedi ymgeisio am y Fedal Ddrama am fy mod yn awyddus i gael adborth y beirniaid ar fersiwn cynharach o DNA. Roedd peth dryswch, anghydfod ac yn wir, dirgelwch ynghylch yr holl beth ond o leiaf, cefais feirniadaeth ar fy nghais. Dyma ran o’r feirniadaeth:
“Darn uchelgeisiol o theatr sy’n cyflwyno gwyddoniaeth, a sut mae merched bob amser wedi chwarae’n ail ffidil i ddynion yn y byd gwyddonol. Mae’r ddrama fyd-eang hon yn chwa o awyr iach i’r theatr Gymraeg.”
DNA
Darganfor cyfrinach bywyd
A love story by Wyn Bowen Harries
1950’s London, Rosalind Franklin joins the ‘hallowed corridors’ of a university. Talented and passionate about science; Rosalind is a strong woman in a male preserve.
She joins the race to reveal the structure of DNA, one of the century’s most important puzzles, amid academic jealousies and with a Nobel Prize up for grabs.
This detective story set in the racism and sexism of the period reveals Rosalind’s role in one of the most important discoveries of our time, one for which she was not fully acknowledged.
Cwmni Pendraw will deliver drama, confrontation, love and live music.
Cwestiwn ac ateb efo Wyn Bowen Harries, awdur DNA Darganfod cyfrinach bywyd.
Cast
Rosalind Franklin: Manon Wilkinson
Manon’s screen credits include the crime drama Craith/Hidden and Y Gwyll/Hinterland for S4C/BBC, the court drama Dim ond y gwir, as ‘Tracy Fish and Chips’ in the soap drama Stad, Rownd a Rownd, and the children’s comedy Cei Bach for S4C.
Her theater credits include productions with Theatr y Sherman, Theatr Clwyd, Theatr Genedlaethol Cymru, Volcano Theater Company, Cwmni’r Frân Wen, Cwmni Pendraw and Theatr Bara Caws.
She is a regular contributor to radio dramas on BBC Radio Cymru.
Adrienne Weill: Morfudd Hughes
Morfudd was nominated for a BAFTA award for her performance in the film Branwen, she played the role of Gwenda in the series Pengelli, Ruth Driscoll in the series Craith/ Hidden, S4C/ BBC, she also appeared in the series Y Gwyll/ Hinterland, S4C/ BBC and in the film Y Lleill. She also played the role of the character Eleri in the series Rownd a Rownd and appears occasionally as Val in Pobol y Cwm.
Her theatre work includes Cyfaill/ Te yn y Grug – Bara Caws, Chwalfa – National Theatr, Skint – National Theatr and Fel Anifail by Meic Povey for the Sherman Theatre. She also took part in workshops on the play NOT by Lisa Parry, for the RSC. Her most recent role was Siani in Jerry Hunter’s play, Ledi’r Wyrcws.










