DNA – Darganfod cyfrinach Bywyd: chwa o awyr iach i’r theatr Gymraeg.

Mae’n debyg mai cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Pendraw yw’r ddrama gyntaf gyda phwnc ‘gwyddonol’ yn y Gymraeg. Bydd DNA – Darganfod cyfrinach bywyd yn agor ddiwedd mis Mai cyn teithio trwy Gymru fis Mehefin.

Darganfyddiad strwythur DNA sydd dan y microsgop yma, darganfyddiad sydd wedi chwyldroi ein byd.

Gyda Wyn Bowen Harries yn gyfrifol am y sgript a’r cyfarwyddo, bydd y ddrama’n datgelu cyfraniad Rosalind Franklin, wrth iddi gyflawni cam allweddol yn y stori. ‘Benthycwyd’ ffrwyth ei gwaith trylwyr gan James Watson a Francis Crick, a lwyddodd i ddatrys y cod, gan wedyn ennill Gwobr Nobel.

Wrth gwrs, rydym yng nghyd-destun y 50au, ac felly hefyd y sialensiau a wynebwyd gan Rosalind, cymeriad anghonfensiynol a heriodd stereoteipiau’r cyfnod.

Mae’r cyfan yn nwylo cast profiadol: Siôn Emyr, Llŷr Evans, Morfudd Hughes a Manon Wilkinson.

Fel y pwysleisia Wyn Bowen Harries, stori dditectif yw hon. Rosalind Franklin yw ein ‘ditectif’ sy’n egluro’i gwaith a’i heriau wrth ei chyfaill a’i mentor, Adrienne Weill. Rydym yn dod i ddeall cyfraniad Rosalind gyda chymorth tafluniadau ar y set a fydd yn darlunio’r elfennau gwyddonol mewn modd syml a chlir. Cai Dyfan sy’n gyfrifol am y dylunio, gyda goleuo a thafluniadau gan Ceri James. 

Bydd trefniant gwreiddiol o ganeuon a cherddoriaeth y cyfnod yn cael ei chwarae’n fyw gan Patrick Rimes yn plethu drwy’r cyfan. Yn ogystal â bod yn gerddor traddodiadol ac yn aelod o Vrï, a chyn hyn, Calan, mae Patrick yn gyfansoddwr, yn drefnydd cerddoriaeth ac yn arweinydd talentog. 

Dywed Wyn:

“Rydym fel cwmni’n arbenigo mewn dod â themâu amgylcheddol a hanesyddol i’r llwyfan. Y tro hwn, roeddwn eisiau ymchwilio’n ddyfnach i faes mwy gwyddonol a dangos sut mae gwyddoniaeth yn newid ein bywydau, bod straeon gafaelgar yn gysylltiedig â rhai o’r darganfyddiadau pwysicaf, a bod merched wedi gwneud cyfraniadau o bwys sydd wedi cael eu tanbrisio yn y gorffennol!”

“Mae stori gref yn hanfodol, a theimlwn fod stori dditectif, ac yn wir, stori gariad yma. Roedd ymroddiad Rosalind a’i chariad at ei gwaith yn amlwg. Er hyn, ac yn ddiarwybod iddi, roedd Rosalind hithau’n destun cariad ac edmygedd ei ffrindiau a’i chyd-wyddonwyr, ond i’w gwaith ac i wyddoniaeth y rhoddodd hi ei hymroddiad a’i chariad yn gyfan gwbl.”

Cyflwynwyd y sgript i gystadleuaeth Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol 2024 – y flwyddyn y tynnwyd y gystadleuaeth yn ôl.

Dyma ran o’r feirniadaeth:

“Darn uchelgeisiol o theatr sy’n cyflwyno gwyddoniaeth, a sut mae merched bob amser wedi chwarae’n ail ffidil i ddynion yn y byd gwyddonol. Mae’r ddrama fyd-eang hon yn chwa o awyr iach i’r theatr Gymraeg.”

Taith

Iau 28/5/26 Stiwdio Pontio, Bangor
Gwener 29/5/26 Stiwdio Pontio, Bangor
Sadwrn 30/5/26 Stiwdio Pontio, Bangor
Mawrth 02/6/26 Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Mercher 03/6/26 Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Gwener 05/6/26 Y Stiwt, Rhosllannerchrugog
Llun 08/6/26 Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron
Mercher 10/6/26 Mwldan, Aberteifi | Cardigan
Gwener 12/6/26 Theatr y Werin, Aberystwyth
Mawrth 16/6/26 Galeri, Caernarfon
Iau 18/6/26 Tŷ Dawns, Caerdydd
Gwener 19/6/28 Tŷ Dawns, Caerdydd