“Chwa o awyr iach i’r ddrama Gymraeg”- beirniaid cystadleuaeth Fedal Ddrama Eisteddfod y Rhondda na fu.
Drama sy’n olrhain stori darganfod strwythyr DNA o safbwynt Rosalind Franklin a wnaeth cymaint o waith ond cafodd ei hanwybyddu gan sefydliad gwyddonol a phwyllgor y wobr Nobel. Cafwyd cyfnod byr o Ymchwil a Datblygu yn ddiweddar a diolchwn i Cyngor Celfyddydau Cymru am nawdd ac i Fran Wen a Pontio am gartref. Awn ymlaen i geisio taith o theatrau Cymru yn y dyfodol agos. Dyma flas o’r gwaith hyd yn hyn (Pontio Rhagfyr 2024).
Criw creadigol: Cynllynydd – Cai Dyfan; Goleuo ac Animeiddio – Ceri James, Cerddoriaeth – Patrick Rimes, Rheolwr Cynhyrchiad a Llwyfan – Iestyn Garlick
Our new project is DNA, a new play of the discovery of the structure of DNA but this time from Rosalind Franklin’s perspective, not James Watson and Francis Crick. Here is a taste of our recent R & D.
AM DDIM (gyda thocyn ar gyfer y sioe)free with a ticket for that evening’s show
22/6 7.30, 23/6 7.30, 24/6 2.30 & 7.30
22 Mehefin 2023 Darlithfa PL2 6.00pm (2ail lawr Pontio drws nesaf i Caffi Cegin) Grisiau (lifft ochr bellaf y bar)
Siaradwr: Dr. Goronwy Wynne: Teitl: Mwynhau Blodau Eryri
Brodor o Licswm yn Sir Fflint yw’r Dr Goronwy Wynne.
Dechreuodd ei ddiddordeb yn myd y blodau yn ifanc. Fel mab i ffarmwr roedd yn gyfarwydd â bywyd y wlad, ac ar ôl dyddiau ysgol aeth i Fangor i astudio Amaethyddiaeth a Botaneg. Am flynyddoedd bu’n Ddarlithydd yn Adran Bioleg yn Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru, a hefyd yn Gofnodydd i’r Gymdeithas Fotaneg (BSBI) am ddeugain mlynedd. Cafodd radd Doethur gan Brifysgol Salford am ei gyfrol ‘Flora of Flintshire’, a gyhoeddwyd yn 1993. Wedi iddo ymddeol cyhoeddodd ‘Blodau Cymru…Byd y Planhigion’ a ddyfarnwyd yn Llyfr y Flwyddyn 2018.
Y mae Goronwy yn Gymrawd Prifysgol Bangor, a’r Gymdeithas Lineaidd (FLS) a’r llynedd (2022) dyfarnwyd ef yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru (FLSW). Y mae hefyd yn Llywydd Cymdeithas Edward Llwyd a Chymdeithas Thomas Pennant.
(Traddodir y ddarlith yn Gymraeg)
Noddir gan Gymdeithas Edward Llwyd/Llen Natur
22 June 6.00pm Lecture theatre PL2 (Next to Caffi Cegin. 2nd floor Pontio)
Dr Goronwy Wynne: Enjoying the plants of Eryri
Dr Goronwy Wynne is a popular lecturer and broadcaster and President of Cymdeithas Edward Llwyd and of Cymdeithas Thomas Pennant.
Goronwy saId…”As the son of a farmer I was familiar with country life, and I enjoyed going to Bangor to study Agriculture and Botany.
This led to my work in the Biology Department of the North East Wales Institute for many years, specialising in ecology and botany.
I was also Recorder for the Botanical Society of Britain and Ireland for 40 years, and this was the basis of my book “Flora of Flintshire”, published in 1993.”
After his retirement Dr Wynne also published “Blodau Cymru: Byd y Planhigion” (The Flowers of Wales: The World of Plants) which was awarded Welsh Book of the Year in 2018. He is also a Fellow of Bangor University and of the Linnean Society, and last year (2022) was awarded Fellowship of the Learned Society of Wales.
(This lecture will be in Welsh with simultaneous translation)
Sponsored by Cymdeithas Edward Llwyd/Llen Natur
23 Mehefin 2023 Stiwdio 6.00pm (2ail lawr Pontio – grisiau ond lifft ar gael, pen pellaf y bar.)
Siaradwr: Dr Barbara Jones
Teitl: Jewels of Eryri – what future?
Brodor o Bolton, Swydd Gaerhifryn – Swyddog Cadwraeth Ardal, Aviemore; dringwraig profiadol; yng Ngymru, nifer o gyfrifoldebau gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru cyn gwneud ei doethuriaeth ar blanhigyn eiconig Eryri, Lloydia, lili’r Wyddfa, ym Mhrifysgol Bangor – mae Barbara yn arbenigwr cenedlaethol.
(Traddodir y ddarlith yn Saesneg) Noddir gan Cwmni Pendraw
23 June 2023 Stiwdio 6.00pm (2nd floor stairs, but lift available.)
Speaker: Dr Barbara Jones
Title: Jewels of Eryri – what future?
A native of Bolton, Lancashire – Assistant Regional Officer for Aviemore; experienced climber; in Wales, a number of responsibiities with the Countryside Council for Wales before completing her doctorate on the iconic Eryri plant Lloydia, Snowdon lily, in Bangor University – Barbara is a national specialist.
[The lecture will be in English] Sponsored by Cwmni Pendraw.
24 Mehefin 2023 6.00pm Stiwdio 2ail lawr Pontio – (grisiau ond lifft ar gael, pen pellaf y bar).
Siaradwr: Dr Iwan Gwyn Williams
Teitl: Oes o gofnodi planhigion mynyddoedd Eryri
Yn frodor o Groeslon, Arfon, ac yn byw yn Rhuthun mae Gwyn yn beiriannydd wrth ei alwedigaeth ac arbenigwr mewn trin data. Mae ei ddiddordeb mewn planhigion a rhedyn Arctig-Alpaidd, eu hecoleg a’u hanes, yn dyddio o’i blentyndod. Mae’n ddyluniwr celfydd, cyfrannwr cyson i Cymuned Llèn Natur ac yn weithredwr cynaladwyedd deallus.
(Traddodir y ddarlith yn Gymraeg) Noddir gan Gymdeithas Edward Llwyd/Llen Natur.
24 June 2023 Stiwdio 6.00pm (2nd floor stairs, but lift available.)
Speaker : Dr Iwan Gwyn Williams
Title: A lifetime of recording the plants of Eryri
A native of Groeslon, Arfon, now living in Rhuthun, Gwyn is an engineer by training and and expert in processing data. His interest in the plants of the high mountains, their history and ecology, dates from his childhood on the edges of Eryri. He is an accomplished botanical photographer, a recorder of change, a skilful draughtsman, a regular contributer to Cymyned Llên Natur and an active sustainability champion.
[The lecture will be in Welsh with simultaneous translation]
Mae mwy o fanylion am y cynhyrchiad yn dilyn isod. Research & Development video Performance at Pontio, Bangor 22-24 June 2023 More details about the production follow below.
Cynhyrchiad Cwmni Pendraw, Vertical Dance Kate Lawrence a Pontio
Ar greigiau geirwon Eryri y triga Lili’r Wyddfa, un o’n blodau mwyaf prin.
Dyma un rheswm mae pob math o bobol wedi dod i grwydro llechweddau Eryri am dros 300 mlynedd a mwy.
Dewch i gyfarfod â’r tywyswyr mynydd cynnar a fu’n arwain y botanegwyr a chasglwyr planhigion, y daearegwyr, artistiaid a beirdd ar hyd y llethrau a’r copaon.
Dyma sioe sy’n cyfuno drama, hiwmor, cerddoriaeth a dawns fertigol ar raffau!
Cawn gyfarfod â sawl ymwelydd, gan gynnwys rhai adnabyddus, drwy lygaid y bobl leol a gyflogwyd i’w tywys, pobol fel William Williams, neu ‘Wil Bŵts’ o Lanberis.
Bydd y tywyswyr yn rhannu rhai o’u straeon, eu profiadau a’r cystadlu rhyngddynt i ddiddanu, bwydo a chysgodi’r ymwelwyr ar gopa’r Wyddfa.
A oedden nhw’n gwerthfawrogi pwysigrwydd y planhigion prin sydd i’w cael ar y llechweddau, abeth yw dyfodol y lili heddiw?
Hwn yw trydydd cynhyrchiad Cwmni Pendraw. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn cyfuno hanes agwyddoniaeth mewn ffyrdd creadigol ac annisgwyl, gan ddefnyddio drama, cherddoriaeth, ac am y tro cyntaf, dawns fertigol.
Yn Gymraeg gyda capsiynau Saesneg. Arwyddo BSL Nos Iau 22ain a Gwener 23ain Mehefin
Sgyrsiau cyn sioe am ddim 6.30 yn y stiwdio gan fotanegwyr ac amgylcheddwyr adnabyddys wedi eu noddi gan Gymdeithas Edward Llwyd a Llên Natur
Pris Llawn/ Full price: £10 Pris Gostyngol (dros 60) / Reduction (Over 60) £10 Myfyrwyr / Students: £8 Plant dan 18 Children under 18: £8
23, 7.30 / 24 Mehefin / June 2.30 & 7.30
Pris Llawn / Full Price: £16 Dros 60: Pris Gostyngol (dros 60) £12 Myfyrwyr / Students: £10 Plant dan 18 / Children under 18: £10 Tocyn Teulu ar gael/Family ticket available
Creigiau Geirwon
Eryri’s rugged rocks are the home of the Snowdon Lily, one of our rarest flower.
It is one reason why all sorts of people have been attracted to Eryri’s slopes for over 300 years.
Come and meet the early mountain guides who led the botanists, plant collectors, geologists artists and poets across the mountain slopes and peaks.
This show combines drama, humour, music and vertical dance on ropes!
We meet the visitors, including some famous names, through the eyes of the local people who were employed to guide them, people such as William Williams, or ‘Wil Bŵts’ of Llanberis.
The guides themselves will share some of their stories and experiences, their achievements and the competition between them to entertain, feed and shelter the visitors at the summit of Yr Wyddfa.
Did they appreciate the importance of the rare mountain plants, and how does the future look for the lily?
This is Cwmni Pendraw’s third production. The company specialise in combining science and history in creative and surprising ways, using drama, music, and for the first time, vertical dance.
A production by Cwmni Pendraw, Vertical Dance Kate Lawrence and Pontio.
Mainly in Welsh but all performances captioned in English. BSL signing Thurs 22nd and Fri 23rd June
Pre show talks by well known botanists and environmentalists 6.30pm in the Studio 22nd -24th June sponsored by Cymdeithas Edward Llwyd and Llên Natur
Suitable for Age 8+
Cyfarwyddo / Directing – Wyn Bowen Harries Cyfarwyddo Dawns / Dance Directing – Kate Lawrence Actio /Acting- Iwan Charles, Llŷr Evans, Manon Wilkinson Dawns Fertigol / Vertical Dance– Despina Goula, Kseniia Fedorovyh, Lisa Spaull Cerddoriaeth / Music – Patrick Rimes, Casi Wyn, Mared Williams (24 Mehefin / June) Cynllunydd Set a Gwisgoedd / Set and Costume designer – Luned Gwawr Evans Goleuo / Lighting – Gwion Llwyd Sain / Sound – Aled Hughes Rheolwr Cynhyrchiad / Production Manager – Iestyn Garlick Llwyfan / Stage – Martha Davies BSL – Cathryn Mc Shane Marchnata / Marketing– Eli Elis-Williams Video a lluniau / Video & images – SDG Productions Dylunio / Design – Rob Spaull