‘Mr Bulkeley o’r Brynddu’ yw enw cynhyrchiad cyntaf Cwmni Pendraw sydd wedi ei sefydlu i greu profiadau theatrig sy’n cyfuno themau hanesyddol a gwyddonol.
Mae ‘Mr Bulkeley’ yn teithio gyda chydweithrediad Bara Caws rhwng Ionawr 27 a Chwefror 14, 2015.

Mwy o wybodaeth ar y dudalen nesaf. Yn y cyfamser dyma flas o’r digwyddiad ‘Diwrnod William Bulkeley’ sef rhagwelediad o’r sioe lwyfan llawn a berfformiwyd yn Y Brynddu, Llanfechell Medi 19, 20.
Dyma’r ‘Fame’, llong Fortunatus Wright, y morleidr a briododd Mary Bulkeley, merch William.
Cwmni Pendraw
mewn cydweithrediad a Bara Caws yn cyflwyno:
MR BULKELEY O’R BRYNDDU
Noddir gan Ynys Mon SDF, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymdeithas Edward Llwyd, llen Natur, Prifysgol Bangor, Magnox, a C3W
Mr Bulkeley o’r Brynddu: Plethu drama, hanes a gwyddoniaeth
Opera sebon o fywyd oedd gan William Bulkeley, Ysgwier o Ynys Môn yn ystod y 18fed ganrif – mi briododd ei ferch â môr-leidr, bu farw ei fab o alcoholiaeth, cafodd ei fam ei lladd gan ysgol yn syrthio ar ei phen cyn cael ei sathru gan wartheg!

Daeth ei ddyddiaduron yn yn fyw mewn drama ddwyieithog newydd – Mr Bulkeley o’r Brynddu – yn ei hen gartre’ ar stad Brynddu yn Llanfechell, ger safle’r Wylfa – ble mae un o ddisgynyddion y sgweier, Yr Athro Robin Grove-White yn byw erbyn hyn.
Roedd William Bulkeley yn fyw rhwng 1691-1760 ac mae ei ddyddiaduron yn rhoi darlun o fywyd y cyfnod – gan gynnwys hanes ei deithiau i Iwerddon, ynghyd â ffeiriau, ymladd ceiliogod, a sgandalau’r llys ym Miwmares.
Mi gafodd Cymru Fyw sgwrs efo’r actor Wyn Bowen Harries am ail greu hanes y sgweier lliwgar:
Wyn Bowen Harries, sydd wedi sgrifennu a chynhyrchu : Pam dewis gwneud drama fel hon?
“Yn ddiweddar mi nes i ddilyn cwrs MA mewn Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy ym Mhrifysgol Bangor – gradd mewn Biocemeg oedd gen i beth bynnag – felly mae gen i ddiddordeb amlwg mewn gwyddoniaeth a’r amgylchedd, a phethau fel ‘na.”Y naturiaethwr Duncan Brown ddaeth ata’ i a gofyn oedd gen i ddiddordeb mewn creu eitem theatrig am y dyddiaduron – nes i edrych arnyn nhw a gweld bod andros o stori ddiddorol yno. Datblygodd petha’ wedyn, gan arwain Duncan, finna’ a Stephen Rees at ein gilydd i sefydlu Cwmni Pendraw.
Mae’n brosiect anarferol – oes ‘na heriau wedi bod?
“Ma’ hi ‘di bod yn her trio dysgu sut i wneud y math yma o beth fy hun – do’n i ‘rioed ‘di cael y profiad o gael arian, rhedeg cwmni – mae o ‘di bod yn wersgo fawr i mi – trefnu taith ac ati. Ond ‘dwi ‘di ffeindio fo’n andros o ddiddorol. Mae ‘na lot o waith gwirfoddol, wrth gwrs, sy’n cymryd lot o amser. Ond ‘does ‘na ddim cymaint o waith bellach i actorion yng Nghymru, felly o’n i’n teimlo ‘mod i isho gwneud rhywbeth.”
Sut brofiad gafodd y gynulleidfa?
“Cynhyrchiad awyr agored oedd cam cyntaf y prosiect – rhywbeth hollol wahanol, blas o be’ fydd yn y ddrama lawn. Dechreuwyd o flaen y tŷ ym mhentre’ Llanfechell – tŷ hynafol y Bryddu. Mae’r perchennog presennol wedi bod yn hynod groesawgar a diddordeb mawr ganddo yn William Bulkeley a’i hanes. Wedyn symudwyd i’r ardd lle roedd golygfa’r anteliwt. Wedyn dysgodd y cerddorion Stephen Rees a Huw Roberts gân “Da yw swllt” i bawb. Ar ôl hynny, roedd rhaid cerdded tra’n canu ar draws y cae tuag at Eglwys Llanfechell, i weld gweddill y ddrama.
A beth am y daith yn y flwyddyn newydd?
“Ia, hwnnw yw’r prif gyfnod ymarfer – mi fydd ‘na sioe lawn, hefo gwisgoedd, set, goleuadau ac yn y blaen. Rydan ni ar daith am dair wythnos o 27 Ionawr i 14 Chwefror.
Newid hinsawdd
Ond nid dim ond stori dda ‘mohoni. Cafwyd cyflwyniad gan Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru C3W ar wyddoniaeth y tywydd, a phwysigrwydd astudiaeth o ddyddiaduron fel rhai William Bulkeley, â oedd yn cofnodi’r tywydd yn ddyddiol am dros 30 o flynyddoedd.
Mae’r gwaith yn rhoi darlun unigryw o hinsawdd y cyfnod. Felly mae gwyddonwyr wedi bod yn astudio’r dyddiaduron er mwyn dysgu am newid hinsawdd heddiw. Roedd y cyflwyniad dan ofan Dr Sarah Davies a Dr Cerys Jones gyda chefnogaeth Yr Athro James Scourse a Vince Jones yn tynnu lluniau a video. http://vimeo.com/wholepicture/bulkeley
http://wholepicture.zenfolio.com/c3w
Plethu drama, hanes a gwyddoniaeth
Cwmni Pendraw sy’n gyfrifol am y cynhyrchiad – cwmni gafodd ei sefydlu’n arbennig i geisio cyfuno profiadau theatrig hefo hanes a gwyddoniaeth.
‘Hynod ddiddorol’
Einion Thomas, Archifydd Prifysgol Bangor, sy’n esbonio pam fod drama yn gyfrwng da i gyflwyno ffrwyth llafur y cynllun: “Mae’r digwyddiadau theatrig yn fodd gwych i ddathlu penllanw project diddorol sydd yn rhoi’r dyddiaduron ar ffurf sydd yn hawdd i unrhyw un bori drwyddyn nhw. “Maen nhw’n hynod ddiddorol, heb sôn am fod ymysg y dystiolaeth ddogfennol bwysicaf sydd ar gael i’r sawl a fyn astudio hanes bywyd ar Ynys Môn yn y 18fed Ganrif. “Dwi’n falch o’r cydweithredu sydd wedi bod rhwng yr Archifau, Llên Natur, Cymdeithas Edward Llwyd a chwmni SueProof, sydd wedi rhoi’r dyddiaduron ar ffurf y gall bawb ei darllen.”
Mae dyddiaduron William Bulkeley yn cael eu cadw yn Archif Prifysgol Bangor, a bellach wedi’u trawsgrifio ac ar gael i’w darllen a’u gweld arlein. bulkeleydiaries.bangor.ac.uk
Stephen Rees yn son am Y Gerddoriaeth
Wrth fynd ati i ddyfeisio ‘byd sain’ addas, ceisias adlewyrchu tair agwedd o gerddoriaeth y cyfnod: cerddoriaeth boblogaidd dinasoedd mawr Llundain a Dulyn; alawon ffidil a thelyn oedd yn gyfredol yn Sir Fôn yn ystod bywyd William Bulkeley; a thraddodiadau cynhenid yr ynys, sy’n cael eu cynrychioli gan alawon ac offerynnau brodorol.
Mae dyddiaduron William Bulkeley yn adlewyrchu’r gwahanol agweddau gwahanol ar gerddoriaeth. Mae’n cyflogi telynorion i chwarae yn y Brynddu o bryd i’w gilydd, gan ddisgrifio un ohonyn nhw, Owen Morris o Gaernarfon, fel ‘the worst I believe as ever handled a Harp’! Roedd caneuon a cherddoriaeth a chaneuon yn rhan o’i fywyd: mae’n cofnodi geiriau ambell gân sy’n hoff ganddo – megis y ‘Scotch Song’ – gan ysgrifennu bod gân yn haeddu cael ei chofnodi oherwydd ‘the beauty and humour of it.’ Ac mae ei gyfaill, Lewis Morris, yn cofnodi ambell gân boblogaidd o’r cyfnod ar ei ran: mae’r rhain mewn nodiant yn y dyddiadur, fel y ‘Song by Young Lady’, sy’n cael ei chanu gan Anna Wright tua diwedd y ddrama. Cyhoeddwyd y gân yn Llundain The Gentleman’s Magazine, fis Rhagfyr 1737 – ‘Set to music by Mr Stanley’, sef y cyfansoddwr Seisnig, John Stanley (1712-1786). Erbyn 28 Mehefin 1738, mae wedi’i chofnodi gan Morris ‘as I received it this day’. Roedd lleoliad Môn ar y ffordd rhwng Llundain a Dulyn yn golygu bod y gerddoriaeth ddinesig ddiweddaraf yn gallu cyrraedd Llanfechell o fewn ychydig fisoedd.
Daw rhai o’r caneuon o ‘Ballad Operas’ y cyfnod, gan gynnwys dwy gân o’r enwocaf ohonynt oll, The Beggar’s Opera gan John Gay (‘Our Polly’ ac ‘Over the Hills’). Byddai cerddorion yn defnyddio alawon traddodiadol a phoblogaidd y cyfnod gan osod geiriau newydd arnynt – weithiau rhai dychanol, weithiau rhai masweddus. Yn wir, yn ei hanfod, dyw’r dechneg hon ddim mor bell â hynny o’r traddodiad caneuon actol yng Nghymru heddiw.
Beth am gerddoriaeth frodorol Sir Fôn? Rydym yn gwybod enwau dros 40 o ffidilwyr yn Sir Fôn yn ystod y 18fed ganrif, ac mae’r ffidlau felly’n chwarae rhan sylfaenol yn y trefniannau. Ond mae’r pibgorn a’r delyn deires i’w clywed hefyd. Mae gan nifer o’r alawon traddodiadol gysylltiad uniongyrchol â Sir Fôn, naill ai trwy eu henwau (‘Malltraeth’), neu gan eu bod nhw wedi cael eu chwarae ar yr ynys. Daw sawl alaw o lawysgrif gan Morris Edwards, un o ffidlwyr Môn. Does dim llawer o wybodaeth lawer amdano, ond fe gafodd ei gyflogi i ganu’r ffidil am gyfnod i’r teulu Meyrick ym Mhlas Bodorgan ychydig wedi cyfnod William Bulkeley. Ac o ddechrau’r ddeunawfed ganrif mae gennym garol draddodiadol – ‘Carol Gwirod yn Drws’ – a gofnodwyd gan Richard Morris, un arall o Forrisiad Môn.
Roedd yn rhaid hefyd mentro yn ôl i’r 17eg ganrif, gan gynnwys salmau a ymddangosodd gyntaf yn Llyfr y Psalmau Edmwnd Prys (1621), yn ogystal ag alaw gan Albanwr, Andro Blackhall (1536-1609), ar gyfer y ‘Scotch Song’. Ond nid jest archeoleg gerddorol mo hyn: mae’r alawon yn rhai da, bachog a chofiadwy, ac rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n gadael heno tan chiwbanu neu ganu’r alawon – yn union fel roedd cynulleidfaoedd y ‘Ballad Operas’ y 18fed ganrif!
Sue Walton.
Fy enw i yw Susan Walton, ac rwy’n ddarllenydd proflenni sy’n masnachu o dan yr enw Sue Proof. Fi wnaeth y gwaith caled o drawsysgrifio pob gair o ddyddiaduron William Bulkeley. Felly, i’r rhai ohonoch sy’n mwynhau hel ffeithiau, teipiais tua 422,400 gair ar draws 1,050 o dudalennau. Roedd pob tudalen yn bodoli eisoes fel ffotograff ar ffurf pdf, felly gweithiais oddi ar y rheiny yn hytrach na’r testunau gwreiddiol. Y rheswm mod i’n ddewis da ar gyfer y dasg yw, gan fy mod yn ddarllenydd proflenni, rwy’n hynod o ffyslyd am sicrhau fod pob teipysgrif yn fanwl gywir o’i gymharu â’r gwaith gwreiddiol. Yn yr achos hwn roedd angen i’r trawsgrifiad fod mor agos i lawysgrifen wreiddiol Bulkeley – a’r marciau eraill a wnaeth ar y dudalen – ag sy’n bosib ar brosesydd geiriau. Golyga hyn, er enghraifft, fod rhaid i mi anwybyddu fy ngreddf i gychwyn bob brawddeg gyda phriflythyren.
Cymerodd y trawsgrifiad a’r gwirio tua 700 awr i mi, a’r gwaith wedi ymestyn dros gyfnod a gychwynnodd yn hwyr yn 2011 a pharhau tan yn gynnar yn 2014. Mae rhai priodasau nad ydyn nhw’n parhau cyhyd, ac mae’n rhaid i mi ddweud fod William Bulkeley wedi bod yn rhan o fywydau fy ffrindiau a minnau am gyfnod. Roeddem yn trafod Bulkeley a’i hynt a’i hanes fel pe bai’n byw yn ein pentref. Roeddem yn teimlo ein bod yn ei adnabod, a theimlais dristwch pan oedd yn dioddef salwch angheuol a minnau’n gwybod mor brin oedd ei amser ar y ddaear.
Roedd fy nhasg yn un ddiflas a hynod ddiddorol ar yr un pryd. Mae sawl cofnod sy’n nodi, ar wahân i’w record hollbresennol o’r tywydd, nad oes unrhyw beth nodweddiadol wedi digwydd: ‘nothing remarkeable [sic] happened’.

Fel cyfanwaith, mae’r dyddiadur yn arbennig o ddiddorol gan ei fod yn rhoi darlun o fywyd cyn y Chwyldro Diwydiannol, ac felly oedd pethau, fwy neu lai, am ganrifoedd o’r blaen. Gwynt, dŵr neu eli penelin oedd yr unig ffynonellau pŵer ar gael i gyflawni tasgau mecanyddol a thrafnidiaeth. Roedd cymdeithas yn cael ei rheoli gan y Brenin, gan yr aristocratiaeth – a oeddent hefyd yn poblogi’r llywodraeth a’r farnwriaeth – a gan yr eglwys sefydledig. Roedd meddyginiaeth yn beth cyntefig: er enghraifft, yn ei fisoedd olaf, cynghorwyd Bulkeley i farchogaeth yn galed i wella’i ‘afiechyd’ (tybiaf mai cancr y coluddyn oedd arno, yn ôl ei symptomau).
Un agwedd o’r gwaith a gynhaliodd fy niddordeb ymysg yr holl nodiadau piwis am brisiau cig ym marchnad Llanerchymedd, neu restrau hirfaith o ba rai o’r crachach oedd yn mynychu Sesiynau’r Llys, oedd y pethau diamcan a nododd Bulkeley. Pethau a nododd ar hap, a phethau hefyd sydd – oni bai eich bod yn hanesydd proffesiynol – wedi llithro o’n dealltwriaeth gyffredinol. Pethau fel rhaffau wedi eu gwneud o foresg; llwynog dof Bulkeley (sy’n dianc ac wedyn yn dychwelyd, ac a fu farw pan gafodd ei larpio gan gi dieithr); dynes yn mynd o gwmpas y sir yn dynwared Mary, merch Bulkeley (pam?); a dyddiau ymprydio a gweddïo cenedlaethol a’u gorchymynnwyd gan y Brenin er mwyn i Dduw roi cymorth i’r wlad yn ei rhyfel yn erbyn Ffrainc.
Felly: comisiwn diddorol, diflas ar brydiau, a gymerodd amser hir ond a oedd yn brofiad arbennig iawn i mi. Diolch i Gymdeithas Edward Llwyd am y gwaith; ac i Gyngor Sir Ynys Môn a Phrifysgol Bangor am roi grantiau i Gymdeithas Edward Llwyd i alluogi’r prosiect i ddigwydd.
Slogan Sue Proof yw ‘trawsnewid geiriau crai yn eiriau cywir’. Mae hi’n cynnig prawf ddarllen, golygu, ac ysgrifennu; a chyfieithu Cymraeg–Saesneg. Edrychwch ar www.sueproof.co.uk am ragor o wybodaeth.
Duncan Brown (Cadeirydd Cwmni Pendraw)

Yn nhyb ei deulu roedd William Bulkeley yn sgriblo cofnodion y tywydd yn ei ddyddiadur hyd syrffed. Ond i ni heddiw ei ddyddiaduron yw un o brif ffynonnellau tywydd a bywyd fferm yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Yn ddiweddar buom yn dathlu cyhoeddi ar y we y trawsysgrifiad cyntaf erioed ohonynt.
Beth yw trawsysgrifio felly? Teipio pob gair o’r llawysgrif gwreiddiol. Paham? Yn rhannol i’n helpu ni heddiw ei ddarllen, ond yn bwysicach efallai, i ganiatau gair-chwilio manwl. Beth er enghraifft mae WB yn ei ddweud am dywydd stormus – chwiliwn am y gair stormy efallai – a dyma un o’r 260 o gofnodion sy’n codi: “April 24th. 1737 The Wind W.S.W. cold, stormy & boisterous, and raining cold showers most part of the day”. Yn ôl ffashiwn ei oes, yn Saesneg oedd William yn ysgrifennu, ond roedd y ddrama yn dangos mai Cymro Cymraeg ydoedd ac yn siarad yr heniaith efo’i deulu a’i weision. Siaradai’r iaith fain mae’n debyg gyda’i gyd-berchnogion tir, mân sgweiariaid Môn, ynadon heddwch – a gyda’i ddyddiadur.
Mae trawsgrifiad proffesiynnol Sue Walton ar lein ddwywaith. Mae’r cynnwys amgylcheddol i’w gael ar Llên Natur (Cymdeithas Edward Llwyd) yn y Tywyddiadur, a’r cynnwys i gyd, arferion cymdeithasol a chyfreithiol yn ogystal, ar wefan Prifysgol Bangor (Adran Archifau a Hen Ddogfennau)
Mae’r Tywyddiadur bellach yn cynnwys 90,000 o gofnodion dyddiedig a lleoliedig, o ddyddiaduron a phapurau newydd o bob math, y rhan fwyaf yn Gymreig neu’n Gymraeg. Pwrpas y prosiect yw creu adnodd amgylcheddol i Gymru, a modd o greu straeon neu naratifau hanes newydd am Gymru yn seiliedig ar y tywydd a’r tymhorau a phwysigrwydd dyddiaduron i olrhain patrymau tywydd tymor hir.
Cwmni Pendraw Gyda chydweithrediad Theatr Bara Caws
Yn cyflwyno
Mr Bulkeley o’r Brynddu
Gan Wyn Bowen Harries
Addasiad o ddyddiaduron William Bulkeley (1691 – 1760)
Actorion : Wyn Bowen Harries, Rhodri Sion, Manon Wilkinson. (Gweler CAST/CRIW)
Cerddoriaeth: Stephen Rees, Huw Roberts.
Mae dyddiaduron William Bulkeley yn rhoi darlun gwych i ni o fywyd cefn gwlad ynghyd a bywyd bonheddwyr Môn yng nghanol y 18ed ganrif. Mae hefyd yn nodi’r tywydd bob dydd y bu’n sgrifennu, sy’n record amrhisiadwy o hinsawdd y dydd.
Bydd y cynhyrchiad bywiog hwn o ddiddordeb i holl fynychwyr theatr sy’n hoffi stori dda. Mae bywyd William Bulkeley yn darllen fel opera sebon : hanesion ei fab anystywallt yn Llundain, stori ei ferch a’r morleidr Fortunatus Wright, bywyd sgweiar ac Ustus Heddwch ynghanol scandals llysoedd barn Biwmares, hanes teithiau i Iwerddon ynghyd a ffeiriau, ymladd ceiliogod a chystadlaethau peldroed. Nodwyd nifer o ganeuon yn y dyddiaduron ac fe gynhwysir digonedd o gerddoriaeth yn y perfformiad.
Drama bywyd dyn unigryw. Hanes y werin a’r bonedd. Gwyddoniaeth tywydd.
Mr Bulkeley o’r Brynddu is an adaptation of William Bulkeley’s diaries which gives us a vivid picture of life in 18th Century Anglesey. The production consists of excerpts from his diaries in William Bulkeley’s own words – English. The context of the linking Welsh dramatic pieces should be easily understood. Songs and music of the period mentioned in the diaries are an integral part of the production.
Canllaw oed 11+
CAST/CRIW ‘MR BULKELEY O’R BRYNDDU’
IONAWR/CHWEFROR 2015
CADEIRYDD CWMNI PENDRAW : Duncan Brown
Mae’n frodor o’r Waunfawr o dras teulu o ogledd Lloegr. Cafodd addysg a gyrfa yn y celfyddydau ac yng ngwyddorau bywydeg maes, ac mae’n frwd felly i bontio rhwng y “Ddau Ddiwylliant” yn arbennig ym maes yr amgylchedd. Mae’n grediniol mai Newid Hinsawdd yw prif bryder ein hoes.
Sylfaenodd prosiect Llên Natur ar ran Cymdeithas Edward Llwyd rai blynyddoedd yn ôl ac mae’n olygydd ar y prosiect. Mae’n frwd dros y syniad o ehangu’r byd Cymraeg a Chymreig i barthau y tu hwnt i’n “parth cysur” arferol yn enwedig ym maes yr amgylchedd. I’r perwyl hwn dros y deugain mlynedd diwethaf bu’n gyfrifol am lunio, gydag eraill, restrau o enwau a thermau byd natur i ganiatau i ni gyfathrebu yn y Gymraeg. Mae’n aelod o’r Orsedd, ac yn ddarlledwr a chyhoeddwr achlysurol ar bynciau ecolegol.
Ers ei ymddeoliad bu’n canolbwyntio ar ddatblygu “Tywyddiadur”, sef bas data tywydd ar-lein sydd, ymysg pethau eraill, yn dod â dyddiaduron amaethyddol Cymraeg a Chymreig y tair canrif diwethaf i olau dydd yn aml am y tro cyntaf trwy brosiect adysgrifio gwirfoddol. Cafodd y prosiect hwn sylw academyddion o’r byd hinsoddegol a chelfyddydol. Cwmni Pendraw yw un o’r camau nesaf yn yr antur hwn.
ACTORION:
Wyn Bowen Harries :
Actor a chyfarwyddwr ers bron i 40 mlynedd bellach ac wedi ymddangos ar lwyfannau a sgriniau led led y wlad. Teledu’n cynnwys: Tipyn o Stad, Coronation Street, Y Gwyll/Hinterland; 35 Diwrnod ac newydd ymuno a chast Rownd a Rownd. Ffilmiau fel Gadael Lenin, Y Mapiwr ac Ironclad. Theatr : Season’s Greetings, Drowned Out, Porth Y Byddar, (Theatr Clwyd). Bu’n gyd-awdur ar Pris Y Farchnad (Cyfres 3) i S4C, Mr Bulkeley o’r Brynddu yw ei ddrama lwyfan llawn gyntaf. Cyfarwyddwr Cwmni Pendraw.
Rhodri Sion : Hyfforddiant – Coleg Cerdd a Drama, CaerdyddTheatr: Gwyn/white – Fran Wen, Dros y top – Bara Caws, Blodeuwedd – Theatr Genedlaethol, Cyfaill/te yn y grug – Bara Caws, Hwyliau’n codi – Bara Caws, Hawl/right – Fran Wen, Y Storm/The Tempest – Theatr Genedlaethol, Un nos ola leuad – Bara Caws, Tan mewn drain – Sherman Cymru, The caretaker/y gofalwr – Theatr Genedlaethol, Stags and hens – Fran Wen
Ffilm a Theledu: Llanargollen – Cwmni Da, Gwaith cartref – Fiction Factory, Hinterland – Fiction Factory, Patagonia – Malacara films, Zanzibar – Rondo, Cei bach – Sianco, Crash – BBC, Tipyn o Stad – Tonfedd Eryri, Emyn roc a rol – Tonfedd Eryri, Y lleill – Ankst films. Radio: Dyn pob un – Radio Cymru, Hirddydd Heddwch – Radio Cymru, Heno heno – Radio Cymru
Manon Wilkinson: Theatr :2014, Mr Bulkeley o’r Brynddu, Cwmni Pendraw, Dwr mawr Dyfn, Tryweryn, Theatr Genedlaethol Cymru/Sherman Cymru. Cyfaill / Te yn y Grug, Theatr Bara Caws.Woeful Wales at war, Shimli. Swyn y Coed (the Enchanted Forest), Cwmni’r Fran Wen. Sgint, Sherman Cymru / Theatr Genedlaethol. Un nos ola leuad, Theatr Bara Caws. Write to Rock, Clwyd Theatr Cymru, Drowned Out, Clwyd Theatr Cymru.
Teledu: Pobol y Cwm, BBC/S4C. Maggie, Rownd a Rownd, Rondo. Buddug, Cei bach, Sianco/S4C.
Lleisio. cartoon Dreigiau, lefel 2, s4c. Crwbanod Ninja (teenage mutant ninja turtles), lefel 2 i s4c. Bitesize poems, Galactig/BBC. Open University (radio commercial), gcap media.
CERDDORION
Stephen Rees : Cyfarwyddwr Cerdd.
Mae Stephen Rees yn gerddor sydd wedi’i drwytho yng ngherddoriaeth dradodiadol Cymru ers 40 mlynedd. Mae’n ddarlithydd cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Rhwng 1982 â 2010, fe deithiodd yn helaeth yn y DU, Ewrop ac America gyda’r grwpiau gwerin Ar Log a Crasdant. Rhwng 2006 a 2011, fe fu’n un o gyd-gyfarwyddwyr cerddorol Y Glerorfa (Cerddorfa Werin Cymru).
Yn ogystal ag ymddangos ar nifer o recordiadau gan artistiaid eraill, mae Stephen hefyd yn perfformio gyda’r gantores Sian James a’i band, ac ym mand y canwr-gyfansoddwr Steve Eaves. Yn ddiweddar, mae wedi atgyfodi ei bartneriaeth deuawd ffidil gyda Huw Roberts. Roedd yn un o sylfaenwyr Clera (1996) a trac (1997), ac mae ganddo brofiad helaeth o arwain gweithdai cerddoriaeth draddodiadol ar hyd a lled Cymru.
Huw Roberts
(Ffidil, telyn deires, offer taro) 
Mae Huw yn enw cyfarwydd ym myd cerddoriaeth draddodiadol a dawns werin Cymru. Roedd yn aelod o’r grwpiau gwerin Cilmeri a Pedwar yn y Bar, ac ar hyn o bryd mae’n aelod o’r côr telynau teires Rhes Ganol a Triawd gyda’i fab Sion Gwilym a’i gyfaill Stephen Rees. Dros y blynyddoedd mae ei ffidil, ei bibgorn a’i delyn deires Gymreig wedi ei alluogi i deithio Cymru ben baladr, gwledydd eraill Ynysoedd Prydain ac Iwerddon, sawl gwlad ar gyfandir Ewrop a hefyd Canada ac Unol Daleithiau’r Amerig. Gyda’i wraig Bethan sefydlodd y partïon dawns werin Ffidl Ffadl a Dawnswyr Bro Cefni. Byd y ddawns werin fu’n gyfrifol am ennyn ei ddiddordeb yng ngwisgoedd traddodiadol Cymru. Mae Huw wedi cyhoeddi dwy gyfrol – un yn olrhain hanes Telynorion Llannerch-y-medd, Ynys Môn a’r llall yn archwilio gwisgoedd traddodiadol Môn yn y 19eg ganrif.
Gwenno Roberts
(Ffidil)
Yn wreiddiol o Abergwyngregyn, mae Gwenno bellach yn byw yng Nghaerdydd, lle astudiodd gradd BMus mewn Cerddoriaeth. Ar ôl graddio, a threulio blwyddyn yn gweithio yn y brifddinas, dychwelodd i Fangor er mwyn cwblhau gradd MA gan arbenigo mewn Perfformio a Cherddoriaeth Werin Traddodiadol, gan dderbyn rhagoriaeth yn ei datganiad terfynol. Mae Gwenno’n mwynhau chwarae nifer o arddulliau cerddorol; mae’n perfformio gyda cherddorfeydd, grwpiau dawnsio gwerin, yn unigol ac mewn bandiau amrywiol. Mae hefyd yn gyd-gyfarwyddwwr cerddorol Y Glerorfa.
CYFARWYDDO gan Wyn Bowen Harries a Gwen Ellis:
Mae Gwen yn actor adnabyddus ar lwyfan, sgrin a radio am dros 30 o flynyddoedd.
Yn ddiweddar bu’n chwarae Agnes yn y bennod gyntaf o’r gyfres gyntaf o’r Gwyll/Hinterland. Mae wedi cyfarwyddo cynhyrchiadau llwyfan i Hwyl a Fflag ac i Bara Caws. Mae Gwen hefyd yn gwnselydd gyda Relate Cymru.
CYNLLUN A GWISGOEDD : Lois Prys 
Theatr: Theatr Bara Caws: “Garw”, Cyd-gynllunydd Set a Gwisgoedd 2014, “Dros y Top” Gwisgoedd, “Llanast” Set a Gwisgoedd , “Cyfaill/Te yn y Grug” Gwisgoedd, “Hwyliau’n Codi” Cynllunydd Set a Gwisgoedd. “Sioe Glybia” Cynllunydd Gwisgoedd., “Ga I fod” Cynllunydd Gwisgoedd .Cwmni Fran Wen: “Shabwm”, Cynllunydd Set a Gwisgoedd
Teledu:“Sioe Nadolig Aled Jones”, Cynllunydd Meditel, “Wild Things”, Is Gynhyrchydd,Gwisgoedd a Steilio, Cwmni Da , “Byw yn yr Ardd” Cynllunydd Sioe fach y patch Cwmni Da, “Atom” Cynllunydd Set Cwmni Da, “Hip neu Sgip” Cynllunydd Set Fflic.“Tipyn o Stad” Cynllunydd Tonfedd Eryri, “Talcen Caled” is-gynllunydd Ffilmiau’r Nant
Siopau/Steilio/Graffeg: “Adra”,Cynllunydd Ffenest/Siop 2013-cyfredol, “9 Bach” Steilio clawr CD, “Caffi Ty Golchi” dylunio 6 canfas, “Pentref Mr Urdd” Cynllunydd Set Urdd Gobaith Cymru “Cyngerdd Haf” Cynllunydd Gwasaneth Ysgolion William Mathias, “Gwynedd Werdd” Dylunio cynyrch marchnata 2013 Dylunio Posteri Gwybodaeth Rheilffordd Llanberis. Addysg: 1994- 1997 2:1 BA 3DDesign- Cynllunio Theatr, Prifysgol Canolbarth Lloegr, Birmingham.1992 -1993 Diploma Cwrs Sylfaen Celf, National Collage of Art and Design, Dublin
Technegydd : Tomos Ayres.
Rheolwr Cyhoeddusrwydd: Elinor Elis-Williams. Mae Elinor wedi bod yn gweithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus ar ran cyrff mawr yng ngogledd Cymru ers dros ugain mlynedd. Mae hi wedi mwynhau’r cyfle i gydweithio gyda Chwmni Pendraw i hybu’r cynhyrchiad yma.
Gwefan a Chyfryngau Cymdeithasol : Sion Eirwyn Richards





