Amdanom ni

Sefydlwyd Cwmni Pendraw i fod yn gwmni theatr sy’n arbenigo mewn cyflwyno cynyrchiadau newydd sy’n cyfuno profiadau theatrig â themâu hanesyddol a gwyddonol. Mae gennym ddiddordeb mewn asio cerddoriaeth fyw gyda’n perfformiadau dramatig, ac rydym wedi cydweithio efo cerddorion i gyflwyno cyfansoddiadau newydd ym mhob un o’n cynyrchiadau. Bu’n wefr cael cydweithio efo cwmni Kate Lawrence Vertical Dance yn ein cynhyrchiad diweddaraf, Creigiau Geirwon (2024) er mwyn cyflwyno dawns fertigol fel cyfrwng i fynegi dringo.

Roedd ein cynhyrchiad cyntaf, Mr Bulkeley o’r Brynddu, yn arbennig o lwyddiannus gan lenwi neuaddau a theatrau ledled gogledd Cymru. Roedd yn cynnwys yr actorion Wyn Bowen Harries, Rhodri Siôn a Manon Wilkinson gyda cherddoriaeth gan Stephen Rees, Huw Roberts a Gwenno Roberts. Roedd y cynhyrchiad mor boblogaidd fel y penderfynwyd teithio’n ehangach yn y flwyddyn ganlynol gan ymweld â de Cymru a Llundain.

Addasiad newydd o ddrama Chris Rapley a Duncan Macmillan sy’n cynnwys materion amgylcheddol llosg yr oes oedd 2071, sef ein hail gynhyrchiad. Roedd yn fonolog gyda’r prif gymeriad yn adlewyrchu ar newid hinsawdd a sut y byddai’r byd yn cael ei brofi gan ei wyres yn 2071. Perfformiwyd gan Wyn Bowen Harries, gyda’r cerddorion Gwilym Bowen Rhys ac Angharad Jenkins yn ymuno ag o i berfformio’n fyw ar y llwyfan.

Hanes tywysyddion mynyddoedd Eryri a gafwyd yn Creigiau Geirwon. Cyfunwyd storïau yn amrywio o ddarnau o ddyddiau’r botanegydd Edward Llwyd, i olygfeydd o ymwelwyr oes Victoria gyda’u ‘Great Victorian Fern Collecting Craze’ hyd at agoriad trên bach yr Wyddfa ac ymlaen at olygfeydd cyfoes gyda diflaniad rhai o’n planhigion a blodau prin. Defnyddiwyd Lili’r Wyddfa fel symbol o ddirywiad ein bioamrywiaeth. Unwaith eto roedd cerddoriaeth byw yn elfen hollbwysig. Y tro hwn, cyflwynodd Patrick Rimes a Casi Wyn gampwaith cerddorol. Agwedd wych arall oedd y cyd-gynhyrchiad gyda Kate Lawrence Vertical Dance gan ddefnyddio dawnswyr i gynrychioli mynyddwyr cynnar yn esgyn i nenfwd uchel Theatr Bryn Terfel! Cafodd ein hactorion Iwan Charles, Llŷr Evans a Manon Wilkinson gyfle hefyd i ennill sgiliau rhaff a dringo newydd.

Ceir mwy o fanylion am ein cynyrchiadau blaenorol yma.

Gwybodaeth am y Cwmni

Cadeirydd y Cwmni

Cadeirydd Cwmni Pendraw yw Duncan Brown. 

Mae Duncan yn frodor o’r Waunfawr o dras teulu o ogledd Lloegr. Gyda chefndir sy’n pontio’r celfyddydau a’r gwyddorau, mae Duncan yn frwd i bontio’r “Ddau Ddiwylliant”, yn arbennig ym maes yr amgylchedd. Mae’n argyhoeddedig hefyd mai newid hinsawdd yw prif bryder ein hoes.

Sefydlodd prosiect Llên Natur ar ran Cymdeithas Edward Llwyd rai blynyddoedd yn ôl ac ef yw golygydd y prosiect. Mae’n gredwr brwd hefyd dros herio “parth cysur” arferol y byd Cymraeg a Chymreig, yn enwedig mewn perthynas â’r amgylchedd. I’r perwyl hwn, dros y deugain mlynedd diwethaf, bu’n gyfrifol am lunio, gydag eraill, restrau o enwau a thermau sy’n gysylltiedig â natur i alluogi trafodaeth well o’r pynciau hyn yn y Gymraeg.

Mae’n aelod o’r Orsedd, ac yn ddarlledwr a chyhoeddwr achlysurol ar bynciau ecolegol.

Ers ei ymddeoliad bu’n canolbwyntio ar ddatblygu’r “Tywyddiadur”, sef cronfa-ddata tywydd ar-lein, a grëwyd gan wirfoddolwyr. Ymysg pethau eraill, mae’n dod â dyddiaduron amaethyddol Cymraeg a Chymreig y tair canrif ddiwethaf i olau dydd, yn aml, am y tro cyntaf. Cwmni Pendraw yw un o’r camau nesaf yn yr antur hon.

Cyfarwyddwr Cwmni Pendraw: Wyn Bowen Harries

Yn actor a chyfarwyddwr hynod o brofiadol, mae Wyn yn wyneb cyfarwydd i bawb, gan iddo ymddangos mewn nifer fawr o gyfresi teledu, ffilmiau a chynyrchiadau llwyfan ledled y wlad dros y blynyddoedd. Bu’n cyfarwyddo Cwmni Ieuenctid Cymru, yn Gyd-sylfaenydd Cwmni Hwyl a Fflag ac mae’n gyd-sylfaenydd Cwmni Pendraw, ac yn cyfarwyddo ac ysgrifennu i’r cwmni. Bu’n gydawdur ar Pris Y Farchnad (Cyfres 3) i S4C, Mr Bulkeley o’r Brynddu oedd ei ddrama lwyfan llawn gyntaf.

Cyfarwyddwr Gwyddonol: Athro Emeritws Deri Tomos

Cyn Athro Biocemeg ym Mhrifysgol Bangor yw Deri. Yn ogystal â’i rôl fel darlithydd academaidd ac ymchwilydd, mae Deri wedi ymddiddori mewn a hybu Dealltwriaeth Gyhoeddus o Wyddoniaeth, yn enwedig yn yr iaith Gymraeg. Mae Deri’n llais ac yn wyneb cyfarwydd i wylwyr a gwrandawyr cyfryngau darlledu yn y Gymraeg, fel cyflwynydd a thrwy ei gyfweliadau mynych ar faterion gwyddonol. Mae wedi ysgrifennu erthyglau gwyddoniaeth byr ar sawl pwnc gwyddonol wedi’u hanelu at y darllenydd cyffredin, ac wedi traddodi nifer o ddarlithoedd difyr ar amrediad o bynciau gwyddonol i Glybiau a Chymdeithasau ledled y wlad.

Mae’n gyfathrebwr digymar sydd yn llwyddo i esbonio’r wyddoniaeth fwyaf cymhleth mewn ffordd syml a chyda’i frwdfrydedd awchus.

Cyfarwyddwr Cerdd Cwmni Pendraw: Stephen Rees 

Mae Stephen yn gerddor sydd wedi’i drwytho mewn cerddoriaeth draddodiadol Gymreig ers dros 40 mlynedd. Mae’n darlithio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Rhwng 1982 a 2010, teithiodd yn helaeth yn y DU, Ewrop ac America gyda’r grwpiau gwerin Ar Log a Crasdant. Rhwng 2006 a 2011, roedd yn un o gyd-gyfarwyddwyr cerddorol Y Glerorfa (Cerddorfa Werin Cymru).

Yn ogystal ag ymddangos ar sawl recordiad gan artistiaid eraill, mae Stephen hefyd yn perfformio gyda’r gantores Siân James a’i band, ac ym mand y canwr-gyfansoddwr Steve Eaves. Roedd yn un o sylfaenwyr Clera (1996) a Trac (1997), ac mae ganddo brofiad helaeth o arwain gweithdai cerddoriaeth draddodiadol ar hyd a lled Cymru.

Manon Wyn Williams:

Darlithydd mewn Drama (Ysgol y Gymraeg) Prifysgol Bangor. Mae Manon wedi cyhoeddi nifer fawr o bapurau ac astudiaethau ym myd y ddrama sy’n cynnwys astudiaethau o waith Meic Povey, Sion Eirian a Huw Lloyd Edwards. Mae wedi cadeirio a chyfrannu i nifer fawr o sgyrsiau a chynadleddau dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ogystal â’i gwaith academaidd mae’ aelod brwd o Theatr Fach Llangefni ac yn hynod o weithgar gyda nifer Eisteddfod fel aelod o Aelwyd yr Ynys.

Twm Elias: 

Naturiaethwr, arbenigwr ar lên gwerin, darlithydd ac awdur nifer o gyfrolau yn ymwneud â byd natur, hanes amaethyddiaeth, arferion a defodau gwerin a choelion ac arwyddion yn ymwneud â’r tywydd. Mae’n awdur nifer o lyfrau megis Blodau’r Gwrych (1985) a Blodau’r Gors (1988). Tro Trwy’r Tymhorau (2007); Am y Tywydd – Dywediadau, Rhigymau a Choelion (2008); Y Dyrnwr Mawr (2017) (gydag Emlyn Richards); a’i lyfr diweddaraf (gyda Dafydd Guto), Cymru ar Stampiau’r Byd (2021). Mae hefyd yn olygydd y cylchgrawn Fferm a Thyddyn. Mae Twm Elias yn llais ac wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau Cymreig ac yn gyfrannwr sefydlog i’r rhaglen radio Galwad Cynnar

Dr Nia Watkin Powell:

Bardd ac ysgolhaig yw Nia Powell, sy’n arbenigo ar drawstoriad eang o hanes ein gwlad. Mae’n aelod o dîm Meirion yn Ymryson Barddas a thîm Talwrn Y Manion o’r Mynydd. Mae Nia wedi cyfrannu i gylchgronau fel Barn ac fel hanesydd yn arbenigo yn y cyfnod modern cynnar yng Nghymru wedi ysgrifennu nifer o bapurau academig dros ei gyrfa.

Gadael sylw