Drama sy’n herio pob un ohonom i ystyried y dyfodol
Eleni, bydd cyfle i eisteddfodwyr gael cipolwg ar fath o gynhyrchiad sy’n gwbl newydd i’r theatr Gymreig, sef cynhyrchiad artistig a theatraidd sydd yn cyfuno ffeithiau a gwyddoniaeth â geiriau, delweddau a cherddoriaeth wreiddiol er mwyn cyfleu gwybodaeth ac ennyn trafodaeth.
Newid hinsawdd a dyfodol ein cymunedau yw testun 2071, a’r nod yw rhoi cyfle i gynulleidfaoedd o bob oed ystyried a thrafod pob agwedd o’r testunau hyn.
Dewch i gael rhagflas o gynhyrchiad sydd yn ‘chwalu’r ffiniau rhwng cerddoriaeth a’r gwyddorau’. Bydd fersiwn gryno o 2071 ym Mhabell y Cymdeithasau 1 am 5.00 nos Fawrth 8 Awst ac yn y Sinemaes am 5.00 nos Fercher 9 Awst.
Bydd fersiwn estynedig newydd o 2071 gan Gwmni Pendraw yn mynd ar daith ac yn ymweld ag ysgolion, colegau a chymunedau yn gynnar yn 2018.
Man cychwyn y cynhyrchiad oedd sioe Saesneg o’r un enw gan wyddonydd blaenllaw, Chris Rapley, a fu’n gyfarwyddwr y British Antarctic Survey a’r Amgueddfa Wyddonol ac sydd bellach yn Athro Gwyddor Hinsawdd ym Mhrifysgol UCL yn Llundain. Datblygwyd y sioe un-dyn ar y cyd gyda Duncan Macmillan. Mae Cwmni Pendraw wedi defnyddio’r fersiwn wreiddiol fel man cychwyn ac wedi ei haddasu a’i diweddaru. Yn dilyn perfformiadau o 2071 Gwaith ar y Gweill yng Nghaernarfon a Bethesda fis Rhagfyr diwethaf, mae’r Cwni yn ymchwilio ac ymestyn yn ehangach y cyfuniad o’r celfyddydau ac archwilio ffeithiau.
Wyn Bowen Harries sydd yn cyfarwyddo’r cyfan ac cymryd rhan yn y cynhyrchiad. Siôn Eirwyn Richards sydd wedi golygu’r delweddau sy’n cyd-fynd â’r cynnwys a chyda cherddoriaeth newydd wedi ei gyfansoddi a’i berfformio gan Angharad Jenkins.
Meddai Wyn Bowen Harries:
“Er mai pwnc dwys sydd yma, mae’r cynnwys ynghylch yr her sy’n wynebu dynoliaeth yn bositif. Rwy’n gobeithio y bydd y modd yr ydym yn cyfleu’r ffeithiau, ynghyd â’n cyfuniad o ddelweddau a cherddoriaeth, yn rhoi cyfle unigryw i bobl ystyried pwnc sydd yn berthnasol i bob un ohonom.”
“Rôl theatr yw cynnig adloniant ond hefyd ein cyffroi a’n hannog i ystyried rhyw gwestiwn penodol. Cwestiwn mawr am ein dyfodol sydd gan 2071 i ni ei hystyried,” meddai.
DIWEDD
29.7.17
Manylion pellach: Wyn Bowen Harries, wynharries@gmail.com 07786992355
Lluiau ynghlwm o berfformiadau 2071 Gwaith ar y Gweill
Nodiadau ar gyfer Golygyddion:
- Cwmni Theatr sy’n arbenigo mewn themau hanesyddol, gwyddonol a cherddorol yw Cwmni Pendraw. Teithiwyd ein cynhyrchiad cyntaf ‘Mr Bulkeley o’r Brynddu’ yn llwyddiannus iawn yn 2015 a 2016.
2 Gweler hefyd https://cwmnipendraw.com/ Twitter @Cwmni_Pendraw